Y Pwyllgor Cynaliadwyedd i drafod deiseb yn galw am wahardd bagiau plastig

Cyhoeddwyd 13/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Cynaliadwyedd i drafod deiseb yn galw am wahardd bagiau plastig

Yn ei gyfarfod nesaf, ar 18 Mehefin, bydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn y Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd tystiolaeth bellach ynglyn â deiseb ar wahardd bagiau plastig.

Cyflwynwyd y ddeiseb i’r Cynulliad gan Neil Evans, a gymerodd ran mewn prosiect gan y BBC i awgrymu cyfreithiau newydd ar gyfer Cymru. Enillodd ei awgrym bleidlais y cyhoedd a chyflwynwyd ei ddeiseb gerbron y Pwyllgor Deisebau a drosglwyddodd y ddeiseb i’r Pwyllgor Cynaliadwyedd.

Bydd aelodau’r pwyllgor yn cymryd tystiolaeth oddi wrth y Consortiwm Bagiau Plastig a’r Gymdeithas Pecynnu a Ffilm, ac wrth Cardinal Packaging Cyf, sef cwmni o Lyn Ebwy. Mae’r pwyllgor eisoes wedi cymryd tystiolaeth oddi wrth sawl corff, gan gynnwys Cadwch Gymru’n Daclus, Cymdeithas Cadwraeth y Môr, Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau, a Chonsortiwm Manwerthu Prydain.

Meddai cadeirydd dros dro y pwyllgor, Mike German:

‘Yr wyf mor falch bod y pwyllgor am gymryd tystiolaeth ar y ddeiseb hon. Daeth y syniad o wahardd bagiau plastig yn enillydd cryf yn y prosiect a gynhaliwyd gan y BBC lle bu’n gofyn i’w gwylwyr am y math o gyfraith Gymreig newydd y byddent yn dymuno ei chyflwyno. Daeth dros 350 o syniadau oddi wrth y cyhoedd, gyda’r gwaharddiad ar fagiau plastig yn fuddugol ar ôl cynnal pleidlais gyhoeddus. Mae’n dda bod cymaint o bobl wedi cymryd rhan yn y drafodaeth, ac mae’n siwr gennyf y bydd diddordeb ganddynt mewn dilyn trafodaeth y pwyllgor yr wythnos hon.’

Cynhelir y cyfarfod am 9 o’r gloch fore Mercher 18 Mehefin yn Ystafell Bwyllgora 3 y Senedd.

Gwybodaeth bellach am y pwyllgor

Gwybodaeth bellach am y ddeiseb sy’n galw am wahardd bagiau plastig yng Nghymru

Ceir gwybodaeth ar gyfer newyddiadurwyr ynglyn â rôl, cyfrifoldebau a phwerau deddfu’r Cynulliad yn ein pecyn gwybodaeth i’r cyfryngau ar-lein.