Y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn clywed tystiolaeth am arfer da o ran lleihau carbon yn y cartref

Cyhoeddwyd 16/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn clywed tystiolaeth am arfer da o ran lleihau carbon yn y cartref

Yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 18 Hydref, bydd Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad yn parhau â’i ymchwiliad i Leihau Carbon pan fydd yn clywed tystiolaeth am arfer da o ran lleihau carbon yn y cartref.    

Bydd yr Aelodau yn clywed tystiolaeth gan y Gymdeithas Manwerthu Ynni;  Bwrdeistref Merton yn Llundain a Chyngor Bwrdeistref Woking. Bydd yr Athro Alain Lusardi o brosiect Tai Cynaliadwy yn Ewrop yn rhoi tystiolaeth drwy gyfrwng cyswllt fideo o’r Eidal. Dyma’r ail o dair sesiwn y bydd y Pwyllgor yn eu cynnal i glywed tystiolaeth am ffyrdd o leihau gollyngiadau carbon yn y cartref.

Caiff y cyfarfod ei gynnal am 9.30am ddydd Iau 18 Hydref yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, Bae Caerdydd.

Mwy o fanylion am y Pwyllgor a’i ymchwiliad: