Y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn dechrau ar gam nesaf ei ymchwiliad i leihau allyriadau carbon.

Cyhoeddwyd 24/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn dechrau ar gam nesaf ei ymchwiliad i leihau allyriadau carbon.

Bydd Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad yn cymryd tystiolaeth gan Ganolfan Ymchwil Ynni Cymru wrth ddechrau ar gam nesaf ei ymchwiliad i leihau allyriadau carbon yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher 25 Mehefin.  

Bydd Kevin Mowbray o Ganolfan Ymchwil Ynni Cymru yn darparu gwybodaeth gefndir am leihau allyriadau carbon yn y sector cynhyrchu trydan (yn cynnwys ynni adnewyddadwy). Bydd sawl tyst arall yn rhoi tystiolaeth ar yr un pwnc, sef yr Athro Stuart JC Irvine, Cadeirydd yr Adran Cemeg Deunyddiau Optoelectroneg, Prifysgol Cymru, Bangor; y Dr Ian Masters, Ynni Adnewyddadwy'r Môr, Prifysgol Cymru, Abertawe; Ian Draisey o gwmni Dulas Ltd ac Alex Lambie, Prif Swyddog Gweithredol Grwp Pwer Cymru Cyf. Y sesiwn hon fydd y tro cyntaf i’r pwyllgor drafod pedwerydd maes pwnc yr ymchwiliad, sef i leihau allyriadau carbon yn y sector cynhyrchu trydan.

Mae’r ddau adroddiad cyntaf ar leihau allyriadau carbon, sef ‘Lleihau allyriadau carbon preswyl’ a ‘Lleihau allyriadau carbon trafnidiaeth’  eisoes wedi’u cyhoeddi a bydd y trydydd adroddiad ar leihau allyriadau carbon yn y sector diwydiant ac mewn cyrff cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Bydd y pwyllgor hefyd yn trafod papur cwmpasu ar gynhyrchu ynni.

Cynhelir y cyfarfod am 9.00am ddydd Mercher 25 Mehefin yn Ystafell Bwyllgora 1, y Senedd, Bae Caerdydd.

Mwy o wybodaeth am y pwyllgor a’i ymchwiliad