Y Pwyllgor Darlledu – Argymhellion yr Adroddiad

Cyhoeddwyd 11/07/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Darlledu – Argymhellion yr Adroddiad

Ar 5 Mawrth 2008, sefydlwyd Pwyllgor Darlledu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn ymchwilio i’r materion canlynol a chyhoeddi adroddiad arnynt:

  • ·Dyfodol Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn Gymraeg ac yn Saesneg yng Nghymru;

  • ·Effaith newid i’r digidol a chreu llwyfannau darlledu newydd ar gynhyrchu a darparu rhaglenni a chynnwys digidol o Gymru ac yng Nghymru.

Ddydd Mercher, 9 Gorffennaf mae’r Pwyllgor Darlledu yn cyflwyno’i adroddiad. Mae’n gwneud hyn yng nghyd-destun adolygiad Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, ac yn wyneb pryderon am ddyfodol ITV Wales a sicrhau lluosedd mewn Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, ond nid yw’n argymell newid y trefniadau deddfwriaethol presennol ar gyfer rheoleiddio Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn datblygu strategaeth gyfathrebu yn y meysydd o fewn ei gylch gorchwyl sy’n ymwneud â pholisïau ar ddarlledu, y diwydiannau creadigol, iaith, diwylliant a band eang.

Mae’r pwyllgor hefyd yn argymell bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sefydlu pwyllgor ar gyfathrebu, a hwnnw’n gyfrifol am graffu ar waith Gweinidogion Cymru yng nghyd-destun darlledu, y diwydiannau diwylliannol a chreadigol cysylltiedig, a’r broses o ddatblygu band eang, IPTV a thechnolegau perthnasol eraill.

Dyma grynodeb o brif argymhellion yr adroddiad:

Argymhellion – Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru

  • Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru sefydlu pwyllgor sefydlog ar gyfathrebu, a hwnnw’n gyfrifol am graffu ar waith Gweinidogion Cymru yng nghyd-destun darlledu, y diwydiannau diwylliannol a chreadigol cysylltiedig, a’r broses o ddatblygu band eang, IPTV a thechnolegau perthnasol eraill.

  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddatblygu strategaeth gyfathrebu, a honno’n cynnwys y meysydd polisi o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n ymwneud â pholisïau ar ddarlledu, y diwydiannau creadigol, iaith, diwylliant a band eang. Dylai’r meysydd hyn gael eu dwyn ynghyd yn un uned bolisi drawsbynciol, gan weithio ar draws y strwythur adrannol presennol.

  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru feithrin perthynas agosach â darlledwyr a rheoleiddwyr. Dylai gydweithio â sefydliadau eraill, gan gynnwys sefydliadau addysg uwch, cwmnïau band eang a chwmnïau IPTV arbenigol, a hynny er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth a chyfrannu’n effeithiol i’r broses o ddatblygu’r sector darlledu, y diwydiannau creadigol a’r defnydd effeithiol o dechnolegau newydd.

  • Dylai’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru ill dau fonitro proses ymgynghori Ofcom ar Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, ac ymateb yn amserol i adolygiad presennol Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus dros y flwyddyn nesaf.

  • Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i chynrychioli gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar Grwp Cydgyfeirio Llywodraeth y DU, sydd wrthi’n adolygu’r holl faes darlledu a rheoleiddio yn y DU. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gael cynrychiolaeth uniongyrchol ar y Grwp Cydgyfeirio, a hynny’n ddiymdroi.

  • Dylai Gweinidogion Cymru sefydlu memorandwm cyd-ddealltwriaeth gydag Ofcom, yn debyg i’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy’n bodoli rhwng Ofcom a Llywodraeth yr Alban.

  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru weithio’n agos â darlledwyr a’r sector annibynnol yng Nghymru er mwyn canfod a meithrin talent yng Nghymru a datblygu cynyrchiadau annibynnol.  

  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gomisiynu asesiad blynyddol o’r modd y caiff Cymru ei phortreadu ar rwydweithiau pob un o’r prif ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ar y newyddion.

  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried ymateb uwch reolwyr y BBC i adroddiad King, gan fonitro’r modd y mae’r BBC yn rhoi ei chynllun gweithredu ar waith. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi’r adroddiad monitro hwn.

Argymhellion – BBC

Rydym yn falch o weld bod y BBC wedi cytuno ar dargedau y gellir eu mesur ar gyfer cynyrchiadau o Gymru ar y rhwydwaith rhwng nawr a 2016, sef 5% o’r cynyrchiadau cymwys, ac o leiaf £50 miliwn o wariant ar y rhaglenni hynny.

  • Dylai Ofcom a Llywodraeth Cynulliad Cymru fonitro cynnydd y BBC o ran cyrraedd y targed o 5% ar gyfer cynyrchiadau rhwydwaith. Dylid pennu targedau hefyd ar gyfer y sianeli eraill sy’n darparu Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus.

  • Ni ddylai’r cynnydd yn nifer y cynyrchiadau o Gymru ar gyfer rhwydwaith y BBC fod wedi’i gyfyngu i gynyrchiadau mewnol y BBC. Dylid ymrwymo hefyd i gynnwys cynyrchiadau o’r sector annibynnol drwy Gymru, a dylid gallu mesur hyn.

  • Dylai’r £130 miliwn o’r ffioedd trwyddedu sydd wedi’i neilltuo gan y BBC ar gyfer hwyluso’r newid i’r digidol gael ei ddefnyddio’n rhannol ar ôl 2012 i gyllido Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus drwy’r DU. Dylid neilltuo cyfran briodol o’r swm hwn ar gyfer gwasanaeth prif ffrwd yng Nghymru, yn debyg i wasanaeth presennol Channel 3 yng Nghymru.

  • Dylai rhan o’r cyllid hwn gael ei neilltuo ar gyfer Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ar gyfryngau eraill a thrwy gyflenwyr eraill, gan gynnwys cefnogi gwasanaeth newyddion radio annibynnol ar gyfer radio masnachol yng Nghymru. Cytunwn y bydd angen cyllido Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus gan ddarparwyr eraill ar wahân i’r BBC ar ôl 2012.

  • Ar hyn o bryd, penodir Ymddiriedolwr y BBC dros Gymru drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ond nid oes cynrychiolydd o Gymru ar fwrdd gweithredol y BBC. Dylai Ymddiriedolwr y BBC dros Gymru gael ei benodi gan y Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, a dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo hynny.

  • Rydym yn argymell i Reolwyr y BBC y dylai uwch reolwr Cymru fod yn aelod o fwrdd gweithredol y BBC.

S4C

Credwn y dylai S4C barhau i ddarlledu’n bennaf yn yr iaith Gymraeg. Ar hyn o bryd, nid ydym yn credu bod achos dros newid trefniadau cyllido S4C.

Croesawn bob ymgais gan S4C i ehangu ei apêl i wylwyr di-Gymraeg, gan gynnwys darparu dau drac llais ar raglenni chwaraeon ac isdeitlau.  

Fodd bynnag, o ystyried y pwysau cynyddol ar ddarllediadau yn Saesneg o Gymru yng Nghymru, a chyllid cryf a diogel S4C, credwn y dylai S4C ystyried sut y gall ddefnyddio’i hadnoddau i gynorthwyo â’r gwaith o gynnal darpariaeth Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn Saesneg yng Nghymru, gan gynnwys rhannu cyfleusterau megis prosesau cefn swyddfa a systemau trawsyrru.

  • Ar hyn o bryd, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n penodi cadeirydd Awdurdod S4C, a hynny ar ôl ymgynghori ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

  • Dylai Cadeirydd Awdurdod S4C gael ei benodi gan y Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, a dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo hynny.

Ofcom

  • Dylai fod gan Ofcom gynrychiolydd o Gymru yn aelod ar ei fwrdd. Rydym yn argymell y dylai’r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru benodi’r aelod hwn, ac y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo hynny.

Er bod Ofcom wedi cynnig pedwar model gwahanol, rydym yn argymell dewis arall a fyddai’n canolbwyntio ar gynnal darlledwr gwasanaeth cyhoeddus arall ar wahân i’r BBC yng Nghymru, a hynny drwy sicrhau bod ITV Wales yn parhau â’i hymrwymiadau presennol ar gyfer Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus – o ran newyddion a rhaglenni eraill – tan o leiaf 2012.   

ITV   

Rydym yn annog Ofcom i sicrhau bod lefel bresennol y gwasanaeth yn parhau, a hynny o ran oriau, amserlenni a chyllid.  

  • Dylai Ofcom sicrhau bod lefel bresennol rhaglenni ITV plc ar gyfer Cymru yn parhau. Rydym yn gofyn i ITV wella’r modd y caiff Cymru ei phortreadu ar wasanaethau rhwydwaith ITV a chynyddu nifer y cynyrchiadau a gomisiynir o Gymru.

  • Yn y ddeddfwriaeth sydd ar y gweill ar gyfer cyfathrebu, dylai Llywodraeth y DU greu trwydded ar gyfer Cymru sydd ar wahân i drwydded ITV yn Lloegr. Argymhellwn hefyd fod Ofcom ac ITV yn rhoi ystyriaeth bellach i’r posibilrwydd o greu trwydded gysylltiedig ar gyfer Cymru. Mewn sefyllfa o’r fath, credwn y dylai Ofcom sicrhau bod cronfa’n cael ei chreu ar gyfer Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, a honno’n cael ei gweinyddu gan awdurdod neu asiantaeth er mwyn sicrhau darpariaeth os bydd rhaglenni Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ITV yn dod i ben.

Channel 4

  • Dylai Ofcom ofalu bod Channel 4, fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, yn cyrraedd y targed isaf o 5% ar gyfer cynyrchiadau rhwydwaith o Gymru erbyn 2012. Dylai Channel 4 hefyd ymrwymo i wella’r modd y mae’n portreadu Cymru ar y newyddion ac mewn rhaglenni eraill, a dylai Ofcom sicrhau bod Channel 4 yn atebol iddo am hyn.

Newid i’r digidol

  • Dylai Ofcom sicrhau bod gwasanaethau S4C ar gael yn barhaus ar lwyfannau digidol drwy gydol y broses o newid i’r digidol ym mhob rhan o Gymru.

Radio

Mae’r pwyllgor yn pryderu y gall y newid i’r digidol ar y radio yn y dyfodol olygu y bydd gwrandawyr yng Nghymru dan anfantais, a hynny oherwydd y problemau gyda derbyn Radio Cymru a Radio Wales ar systemau Darlledu Sain Digidol.

  • Dylai Ofcom roi argymhelliad y Gweithgor Radio Digidol ar waith – sef na ddylid newid i’r digidol oni bai bod 97% o bobl Cymru yn gallu derbyn Darlledu Sain Digidol.

  • Dylai Gweinidogion Cymru, ar y cyd ag Ofcom, adolygu’r posibilrwydd o ddatganoli’r broses ar gyfer rhoi trwyddedau radio masnachol a chymunedol yng Nghymru.

Band eang

Rydym yn pryderu ynghylch ansawdd gwael band eang mewn sawl ardal yng Nghymru, a’r ffaith bod hyn yn atal cynnydd yn y defnydd o’r rhyngrwyd ac IPTV fel ffyrdd newydd o ddarlledu. Mae ansawdd gwael y band eang sydd ar gael a phrinder lled band yn rhwystr i ddatblygu Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ar y llwyfannau hyn, ac mae’n tanseilio’r egwyddor y dylai darpariaeth Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus fod ar gael i bawb ym mhob man.  

  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gomisiynu ymchwiliad annibynnol i ymarferoldeb a goblygiadau ariannol y gwahanol ddewisiadau a’r cyfuniadau ar gyfer datblygu band eang yng Nghymru yn y dyfodol.

Isdeitlau ac iaith arwyddion

Er na ddaeth llawer o dystiolaeth i law ynghylch darparu gwasanaethau i bobl fyddar, teimlwn fod hwn yn fater pwysig ac y dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ac Ofcom roi ystyriaeth o ddifrif iddo.

  • Dylai pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus ddarparu gwasanaethau o ansawdd cyson i bobl fyddar. Rydym yn argymell y dylai Ofcom fonitro’r modd y mae darlledwyr yn darparu gwasanaethau i bobl fyddar, a sicrhau bod gan ddarlledwyr weithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion mewn ffordd agored ac amserol.