Y Pwyllgor Deisebau - Angen codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o fanteision diffibrilwyr sydd ar gael i'r cyhoedd

Cyhoeddwyd 09/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2015

Mae Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyflwyno adroddiad ar ddeiseb a gyflwynwyd gan Mr Phil Hill a oedd yn galw am ddeddfwriaeth i sicrhau bod diffibrilwyr allanol awtomataidd ar gael ym mhob man cyhoeddus.

Dyma ganfyddiadau'r Pwyllgor:

  • mae diffibrilwyr sydd ar gael i'r cyhoedd yn helpu i achub bywydau ac yn gwella'r cyfraddau goroesi;
  • mae angen codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ba mor hawdd ydynt i'w defnyddio a bod modd i rywun sydd heb gael hyfforddiant eu defnyddio'n ddiogel; a
  • dylid ystyried cyflwyno deddfwriaeth i fod yn sail i'r angen i gofrestru'r diffibrilwyr sydd ar gael mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru ac i roi sicrwydd 'Samariad Trugarog' i aelodau o'r cyhoedd sydd heb gael hyfforddiant a allai eu defnyddio i geisio achub bywyd rhywun.

Yn ôl William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Roedd yn syndod i ni ddysgu pa mor hawdd yw hi i ddefnyddio'r offer hyn.  Cawsom arddangosiad yn ystod un o gyfarfodydd y Pwyllgor, a gweld eu bod yn syml iawn i'w defnyddio ac y byddai'n anodd, os nad amhosibl, eu defnyddio mewn ffordd a fyddai'n achosi niwed.   Mae'n debygol iawn y gall bron pawb eu defnyddio i achub bywydau."

"Rydym yn deall, os nad ydynt yn gwybod cyn hawsed yw defnyddio'r diffibrilwyr hyn, gallai llawer o'r cyhoedd fod yn amharod i'w defnyddio i achub rhywun lle mae ei fywyd yn y fantol. Rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried codi ymwybyddiaeth o argaeledd a manteision diffibrilwyr a chyfleu'r neges y gall pobl sydd heb gael hyfforddiant eu defnyddio yn ddiogel."

"Rydym ni hefyd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a allai deddfwriaeth helpu i sicrhau y cofrestrir lleoliad diffibrilwyr fel bod y cyhoedd a'r gwasanaethau brys yn gwybod ble i ddod o hyd iddynt.  Gallai deddfwriaeth hefyd fod yn ffordd o roi sicrwydd i'r cyhoedd y gallant fod yn 'Samariaid Trugarog', a defnyddio'r diffibrilwyr heb boeni am ganlyniadau cyfreithiol negyddol."

Dywedodd Mr Phil Hill, y prif ddeisebydd:

"Rwyf wrth fy modd bod y Pwyllgor wedi dewis cefnogi'r ddeiseb. Er mis Ebrill y llynedd, mae ymgyrchwyr a chodwyr arian ledled Cymru wedi cadw ati yn codi ymwybyddiaeth ac arian i roi diffibrilwyr yng nghymunedau Cymru. Mae gwneud hyn wedi arwain at achub bywydau a fuasai'n cael eu colli fel arall, a byddwn felly yn annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu yr argymhellion hawdd eu cyflawni hyn.

"Mae 'Cynghrair Diffibrilwyr Cymru' newydd ffurfio (mae'n cael ei harwain gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru), a thrwy honno y bydd teulu Jack a minnau'n parhau i lobïo am "Gyfraith Jack" ffurfiol er mwyn sicrhau bod modd cael mynd at Diffibrilwyr gerllaw pob adeilad cyhoeddus neu ynddo.

"Mae'r argymhellion hyn yn gam bwysig tuag at gyrraedd y nod hwn er cof am Jack"

"Rwy'n deall bod adroddiad y Pwyllgor yn debygol o gael ei drafod gan y Cynulliad yn yr hydref. Cyn y ddadl honno, byddwn yn annog i'r cyhoedd ddweud wrth eu Haelodau Cynulliad am bwysigrwydd Diffibrilwyr, yn enwedig os oes ganddynt stori i'w hadrodd o safbwynt dadebru mewn man cyhoeddus. A chlefyd y galon mor gyffredin yng Nghymru, rwy'n credu yn gryf y dylai Cymru gymryd yr awenau gyda'r offer achub bywyd hyn."

Pwyllgor Deisebau - Deddfwriaeth orfodol i sicrhau bod Diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus - Adroddiad ar Ystyried Deiseb (PDF, 336KB)