Y Pwyllgor Deisebau i drafod Ysbyty Plant Cymru

Cyhoeddwyd 14/09/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Deisebau i drafod Ysbyty Plant Cymru

Bydd deisebwyr sydd yn gofyn am weithredu cyflymach i gwblhau Ysbyty Plant Cymru yn cyfarfod â Phwyllgor Deisebau’r Cynulliad ddydd Iau, Medi 20. Gwahoddwyd y deisebwyr i gyflwyno’u hachos i’r Pwyllgor ac i drafod eu deiseb â’r Aelodau. Bydd y Pwyllgor hefyd yn derbyn y newyddion diweddaraf am ddeisebau a gyflwynwyd o’r blaen ynghylch cau Cartref Preswyl Glyn Dulais yng Nghreunant Castell-nedd, Port Talbot ac ailagor Gorsaf Reilffordd Carno yn ogystal ag edrych ar nifer o ddeisebau newydd a gyfeiriwyd at y Pwyllgor gan y Llywydd, gan gynnwys:
  • Gwahardd Bagiau Plastig (a gyflwynwyd yn sgil cystadleuaeth a drefnwyd gan BBC Cymru)
  • Deiseb gan Sefydliad Aren Cymru i gynyddu nifer y rhai sy’n rhoddi’u horganau yng Nghymru
  • Taliadau Deintyddol y GIG
  • Canolfan Hamdden a Phwll Nofio Gogledd Torfaen
Dywedodd Val Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r nifer o ddeisebau a dderbyniwyd gan y Pwyllgor yn ystod toriad yr haf yn galonogol iawn ac rwyf wrth fy modd bod cymaint o bobl Cymru’n manteisio ar y cyfle a gynigir iddyn nhw gan y Cynulliad i drafod gyda ni'r pethau sydd o bwys yn eu golwg. Mae llwyth gwaith mawr gan y Pwyllgor i’w gyflawni’r tymor hwn ac rwyf i ac aelodau eraill y pwyllgor yn edrych ymlaen am yr her. Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 1,y Senedd o 1.00pm tan 3.00pm. Manylion llawn ac agenda