Mae Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cefnogi galwad i gynnal adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog.
Mae'r Pwyllgor wedi bod yn trafod deiseb a gyflwynwyd ar ran Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog, a alwodd yn wreiddiol am ohirio penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i israddio'r Ysbyty Coffa i fod yn ganolfan iechyd. Trosglwyddwyd gwasanaethau, gan gynnwys y gwasanaeth mân anafiadau, gwlâu cleifion mewnol a'r cyfleuster pelydr-x i Ysbyty Alltwen yn Nhremadog 14 milltir i ffwrdd yn dilyn ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn y gogledd.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau adroddiad yn cynnwys crynodeb o'i drafodaethau ynghylch y ddeiseb a'i gasgliadau sy'n deillio o'r broses hon.
Mae'r Pwyllgor wedi cefnogi argymhellion a wnaed ddiwedd 2017 gan Bwyllgor Craffu Gofal Cyngor Gwynedd, a gynhaliodd gyfarfod eithriadol y llynedd i gymryd tystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog.
Roedd yr argymhellion yn cynnwys:
Cais am adroddiad ar unwaith gan asiantaeth annibynnol ynghylch y ddarpariaeth iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog.
Bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn monitro gwybodaeth a data yn rheolaidd mewn perthynas ag effeithiolrwydd y gwasanaethau iechyd presennol yn ardal Blaenau Ffestiniog a llesiant ei thrigolion, ac yn ymrwymo i addasu neu newid darpariaeth os oes tystiolaeth i gyfiawnhau hynny.
Bod y Bwrdd Iechyd yn rhoi ystyriaeth fanwl i ddiffygion o ran ymgysylltu ac ymgynghori yn y gorffennol er mwyn gwella trefniadau yn y dyfodol.
Daeth y Pwyllgor Deisebau i'r casgliad hefyd bod angen gwneud rhagor o waith i adeiladu pontydd rhwng y Bwrdd Iechyd ac aelodau o'r gymuned leol ym Mlaenau Ffestiniog, gan nodi bod agor y ganolfan iechyd, Canolfan Goffa Ffestiniog, yn ffordd bosibl o ddechrau hyn.
"Hoffem ddiolch i'r deisebwyr am ymgyrchu'n frwd ac angerddol ar y mater hwn, ac rydym yn croesawu'r broses graffu a gynhaliwyd yn lleol yn ddiweddar," meddai David Rowlands AC, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol.
"Rydym yn credu y dylai darparwyr gwasanaethau iechyd wrando ar ganfyddiadau'r broses hon, yn enwedig yr argymhelliad i gynnal adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth gofal iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog.
"Rydym hefyd yn credu'n gryf bod angen adeiladu pontydd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phwyllgor Amddiffyn Ysbytai Coffa Ffestiniog, ac rydym yn gobeithio y bydd sefydlu Canolfan Goffa Ffestiniog yn sbardun addas ar gyfer cychwyn deialog adeiladol."
Darllen yr adroddiad llawn:
Adfer Gwlâ u i Gleifion,Gwâsânâeth Mâ n Anâfiâdâu âc Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffâ Ffestiniog (PDF, 469 KB)