Cyhoeddwyd 26/10/2006
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Y Pwyllgor Diwylliant i drafod y Theatr cyfrwng Saesneg yng Nghymru
Bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn trafod y Theatr cyfrwng Saesneg yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 26 Hydref yn y Senedd. Bydd y Pwyllgor yn derbyn adroddiad gan Peter Tyndall, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru ar ddatblygiad arfaethedig y Theatr cyfrwng Saesneg yng Nghymru.
Hefyd, bydd yr Aelodau yn trafod adroddiad blynyddol y Llywodraeth ar Gydraddoldeb a chynnydd o fewn y portffolio diwylliant ac yn ystyried barn y Gweinidog ar ddatblygu’r polisi chwaraeon i’r dyfodol a’r berthynas rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru.
Cynhelir y cyfarfod am 9.00am yn Ystafell Bwyllgora 2, Y Senedd, Bae Caerdydd.
Manylion llawn ac agenda