Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn clywed tystiolaeth yn Wrecsam

Cyhoeddwyd 12/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn clywed tystiolaeth yn Wrecsam

12 Mehefin 2012

Bydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cyfarfodydd ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam, ddydd Iau, 14 Mehefin.

Mae’r Pwyllgor, sy’n cael ei gadeirio gan Mark Drakeford AC, yn cynnal ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn ar hyn o bryd.  

Hoffai’r Pwyllgor glywed gan bobl sy’n ystyried eu hanghenion gofal eu hunain neu anghenion gofal aelod o’r teulu ar gyfer y dyfodol neu gan rai yr effeithiwyd arnynt gan yr angen i aelodau o’r teulu neu ffrindiau symud i ofal preswyl. Mae gwahoddiad i’r cyhoedd rannu eu profiadau o ofal preswyl ag aelodau’r Pwyllgor, a thrafod y ffactorau sy’n dylanwadu ar eu canfyddiad ynghylch gofal i bobl hŷn, mewn bore coffi anffurfiol ym Mhrifysgol Glyndŵr rhwng 9.30 a 10.30.     

Ar ôl y sesiwn hon, bydd y Pwyllgor yn cynnal cyfarfod ffurfiol i glywed tystiolaeth gan amrywiol ddarparwyr gofal preswyl, gan gynnwys cynrychiolwyr o Fforwm Gofal Cymru, cartref gofal Haulfryn yn Wrecsam, BUPA, Terra Firma a Four Seasons.

Dylai aelodau o’r cyhoedd sydd eisiau cyfrannu roi gwybod i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol drwy anfon neges e-bost at PwyllgorIGC@cymru.gov.uk neu drwy ffonio 029 2089 8506.

Dylai aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno bod yn y cyfarfod ffurfiol neilltuo sedd yn yr oriel gyhoeddus drwy ffonio llinell archebu’r Cynulliad ar 0845 010 5500, neu drwy anfon neges e-bost at archebu@cymru.gov.uk

Mae agenda lawn cyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae rhagor o wybodaeth am yr Ymchwiliad i Ofal Preswyl i Bobl Hŷn

    

Diolch yn fawr/ Thank you

Eleri Morgan

Swyddog Cyswllt â’r Cyfryngau

Media Relations Officer

Cyfathrebu

Communications

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assemby for Wales

T: 029 2089 8215

T: 07860 254106

www.cynulliadcymru.org

www.assemblywales.org