Y Pwyllgor Iechyd a Llywodraeth Leol i holi Gweinidogion ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth

Cyhoeddwyd 26/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Iechyd a Llywodraeth Leol i holi Gweinidogion ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth

Bydd Pwyllgor y Cynulliad yn gofyn cwestiynau i Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Brian Gibbons, y Gweinidog dros Lywodraeth Leol ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

Bydd y ddau Weinidog yn ateb cwestiynau ar y gyllideb yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol.

Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae craffu ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth yn rhan bwysig iawn o waith y Pwyllgor felly rwy’n falch iawn y bydd y ddau Weinidog yn bresennol yn y Pwyllgor i ateb cwestiynau. Fel Aelodau, rydym yn cymryd ein rôl graffu o ddifrif.”

Cynhelir y cyfarfod am 9.30am, ddydd Mercher 28 Tachwedd yn Ystafell Gynadledda 1, y Senedd, Bae Caerdydd.

Rhagor o fanylion ac agenda