Y Pwyllgor Iechyd yn cyhoeddi ei ymateb i gynigion i ailstrwythuro’r GIG

Cyhoeddwyd 10/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Iechyd yn cyhoeddi ei ymateb i gynigion i ailstrwythuro’r GIG

Heddiw, mae Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad yn cyhoeddi ei ymateb i gynigion ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar strwythur y GIG yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor wedi penderfynu nad yw’n briodol gwneud argymhellion ar hyn o bryd ar rinweddau na gwendidau cynigion penodol ond mae wedi cytuno bod angen i’r Gweinidog Iechyd ystyried amryw o faterion yn ofalus wrth benderfynu ar ei chynigion terfynol.  

Mae’r materion hyn yn cynnwys atebolrwydd Gweinidogion, rheoli gwasanaethau iechyd cymunedol ac integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Dywed yr adroddiad hefyd os bydd camau tuag at leihau nifer y Byrddau Iechyd Lleol, y bydd yn bwysig sicrhau bod y sefydliadau newydd yn parhau i ganolbwyntio’n gryf ar eu cymunedau a’u bod yn gallu cysylltu’n effeithiol â’r cymunedau a wasanaethir ganddynt.  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod y Gweinidog yn ymateb i’w adroddiad o fewn chwe wythnos neu wrth gyhoeddi ei chynigion terfynol, pa un bynnag fydd gyntaf.

Yr Adroddiad