Y Pwyllgor Iechyd yn galw am weithredu brys i wella cynllunio gweithlu

Cyhoeddwyd 13/03/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Iechyd yn galw am weithredu brys i wella cynllunio gweithlu

Mae Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad heddiw’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys er mwyn gwella cynllunio gweithlu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad i gynllunio gweithlu ac wedi canfod mai dim ond un cynlluniwr gweithlu hyfforddedig sy’n cael ei gyflogi ar hyn o bryd gan y GIG yng Nghymru, er bod y Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd y mater.  

Dywed adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd heddiw:  “bod cynllunio’n cael ei seilio ar batrymau hanesyddol yn rhy aml, yn hytrach nag ar anghenion y dyfodol, yn enwedig yr angen i ddatblygu mwy o wasanaethau yn y gymuned.  Nid oes a wnelo’r rheiny sydd ag arbenigedd perthnasol, yn enwedig Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (fel therapyddion lleferydd a therapyddion galwedigaethol) a’r Sector Gwirfoddol, gymaint â chynllunio gweithlu ag y dylent.  Nid yw Byrddau Iechyd Lleol yn meddu ar yr adnoddau staff na’r persbectif strategol i gyfrannu’n ystyrlon at gynllunio gweithlu.  Ym maes Gofal Cymdeithasol, mae’r cynllunio’n aml yn wasgaredig, heb roi digon o sylw i’r nodau rhanbarthol a strategol ehangach.    

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys mynd i’r afael â’r diffyg cynhwysedd yn y Byrddau Iechyd Lleol ac adolygu’r trefniadau ar gyfer cynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yng nghynllunio gweithlu.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithredu er mwyn ymladd yn erbyn prinder deintyddion, meddygon a nyrsys trwy:        

  • Gynyddu’n sylweddol nifer y lleoedd hyfforddiant deintyddol sydd ar gael ar gyfer israddedigion yng Nghymru.                          

  • Cynnal ymchwiliad i weld a allai cynnig bwrsarïau ychwanegol neu gymhelliannau ariannol eraill annog mwy o feddygon sydd newydd gymhwyso i gwblhau eu hyfforddiant ôl-raddedig mewn ardaloedd lle ceir prinder yng Nghymru.

  • Annog Byrddau Iechyd Lleol i gyflogi mwy o Feddygon Teulu a Deintyddion ar gyflog.

  • Edrych ar yr agweddau ymarferol ar gyflwyno cynllun cyflogaeth neu  “swyddi preswyl” gwarantedig ar gyfer nyrsys sydd newydd gymhwyso ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, sef cynllun tebyg i’r un sydd wedi’ i gyflwyno yn yr Alban.                        

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Jonathan Morgan AM: “Rydym yn hynod  ffodus bod gennym staff ymroddedig, diwyd a phroffesiynol yn rhedeg ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.  Mae’r gwasanaethau hyn yn dibynnu ar staff o ansawdd uchel sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac mae sicrhau bod y staff iawn, â’r sgiliau iawn, yn y niferoedd iawn yn cael eu cyflogi’n sail hanfodol i unrhyw ymgyrch i wella gwasanaethau i’r cyhoedd. Mae methu yn hyn o beth yn golygu ei bod yn fwy anodd cyflawni gwelliannau ac, ar y gwaethaf, gall arwain at wasanaethau diffygiol neu wael.

“Mae’n hanfodol bwysig, felly, bod y system ar gyfer cynllunio anghenion staffio ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mor drwyadl a chadarn â phosibl.  Rydym yn ymddiried gofal rhai o’n pobl fwyaf agored i niwed i’r gwasanaethau hyn, ac mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt pan ydym ar ein mwyaf bregus.”