Cyhoeddwyd 22/03/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol i Drafod Datganiad Polisi Llywodraeth Leol
Bydd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod y Datganiad Polisi Llywodraeth Leol yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 22 Mawrth 2007.
Bydd yr Aelodau hefyd yn cael ymatebion i adroddiad y Pwyllgor, sef Trefniadau Etholiadol yng Nghymru, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Comisiwn Cysgodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a CLlLC.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn clywed y wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Mesur Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd ac yn cytuno ar adroddiad craffu’r Pwyllgor yng nghyswllt y Mesur yn ogystal ag ystyried goblygiadau adroddiad terfynol Ymchwiliad Lyons o ran Cymru.
Caiff y cyfarfod ei gynnal yn Ystafell Bwyllgora 2, yn y Senedd, Bae Caerdydd o 9.00am tan 12.30pm ddydd Iau, 22 Mawrth.
Manylion llawn a’r agenda
I archebu sedd, ffoniwch 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost at archebu@wales.gsi.gov.uk Rhowch wybod i’r swyddfa archebu os oes gennych unrhyw anghenion arbennig. Mae’r llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9:00am tan 4:30pm.