Y Pwyllgor Menter a Dysgu i graffu ar y Gweinidog ynglyn ag Ariannu Ysgolion

Cyhoeddwyd 19/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Menter a Dysgu i graffu ar y Gweinidog ynglyn ag Ariannu Ysgolion

Bydd y Pwyllgor Menter a Dysgu yn craffu ar waith Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a’r cynnydd a wnaethpwyd i weithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor ar Ariannu Ysgolion ar Drefniadau Ariannu Ysgolion yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf, ddydd Mercher, Tachwedd 21.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod ei ymateb i ymgynghoriad yr Adran Drafnidiaeth ar y Defnydd o Wregysau Diogelwch a Seddi Diogel i Blant sy’n teithio ar Fwsiau a bydd yn cytuno ar gylch gorchwyl ei ymchwiliad i gyfraniad economaidd addysg uwch yng Nghymru.

Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor “Gweithiodd y Pwyllgor ar Ariannu Ysgolion yn galed iawn yn ystod yr Ail Gynulliad i graffu ar yr holl faterion yn ymwneud â’r hyn a elwir yn “gymylu”  o ran ariannu sy’n effeithio ar ysgolion yng Nghymru ac felly mae’n bwysig ein bod yn dilyn y darn gwaith hwn yn briodol trwy graffu’n ofalus ar waith y gweinidog ar y cynnydd a wnaed i weithredu’r argymhellion yn yr adroddiad. Mae’r gwaith craffu ar y gyllideb a wnaethpwyd gan y Pwyllgor wedi dangos fod pryderon mawr ynghylch tryloywder ariannu ysgolion ac a yw’r gyllideb yn ddigonol i ymdopi â materion megis yr ôl-groniad sy’n bodoli yn y rhaglen fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion.“

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd rhwng 9.00am – 11.45am ddydd Mercher, Tachwedd 21.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Menter a Dysgu