Y Pwyllgor Menter a Dysgu i gynnal y sesiwn graffu trawsbynciol hanesyddol gyntaf
Bydd y Pwyllgor Menter a Dysgu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal y sesiwn graffu trawsbynciol gyntaf erioed ddydd Mercher 17 Hydref pan fydd aelodau’r pwyllgor yn holi tri Gweinidog ynghylch materion sy’n ymwneud â chylch gwaith y pwyllgor.
Bydd Aelodau yn holi’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones; Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu gydol Oes a Sgiliau; a’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Rhodri Glyn Thomas ar ddatblygiad strategaeth Cymru: Economi yn Ffynnu, datblygiad rhaglenni’r cronfeydd strwythurol, a pherfformiad yr adrannau ers uno’r cyrff cyhoeddus a noddid gan y Cynulliad a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Meddai Gareth Jones AC, cadeirydd y pwyllgor: “Mae strwythur newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn caniatáu inni graffu ar waith Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn briodol am y tro cyntaf. Mae gan y Pwyllgor Menter a Dysgu gylch gwaith eang iawn sy’n cynnwys meysydd gwaith sawl Gweinidog, yn yr un modd ag y mae rhai o bolisïau’r Llywodraeth. Felly, mae’n briodol holi pob Gweinidog sy’n ymwneud â’r holl faterion hyn. Rwy’n falch mai’r Pwyllgor Menter a Dysgu yw’r cyntaf i fabwysiadu’r ffordd newydd hon o weithio.”
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3 y Senedd rhwng 9.00am a 12.00pm.