Y Pwyllgor Menter a Dysgu yn cyhoeddi ei adroddiad ar y ddeiseb i ail-agor gorsaf reilffordd Carno.

Cyhoeddwyd 02/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Menter a Dysgu yn cyhoeddi ei adroddiad ar y ddeiseb i ail-agor gorsaf reilffordd Carno.

Mae Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi ei adroddiad ar ail-agor gorsaf reilffordd Carno. Cyhoeddwyd yr adroddiad yn dilyn deiseb a gyflwynwyd i’r Cynulliad yn galw am ail-agor yr orsaf. Cyfarfu’r Pwyllgor yn y dref i drafod y mater a derbyn tystiolaeth gan Grwp Gweithredu Gorsaf Carno a deiliaid diddordeb eraill. Dyma’r adroddiad cyntaf o’i fath sy’n deillio o’r system deisebau a lansiwyd ar ôl yr etholiad ym mis Mai. Gwelodd y Pwyllgor, er y byddai’n anodd cyfiawnhau’r achos dros sicrhau gorsaf newydd yng Ngharno o gofio’r amcangyfrif o’r nifer o deithwyr newydd yn unig, efallai bod achos cysylltiedig â’r amcanion ehangach o ran cefnogi’r gymuned wledig ac annog adfywio’r ardal.   Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r adroddiad hwn a’r cyfarfod y clywodd y pwyllgor y dystiolaeth ynddo yn dangos democratiaeth ar waith. Mae’n bwysig iawn fod y Cynulliad yn ystyried dymuniadau cymunedau  yng Nghymru ac mae’r system ddeisebau yn rhoi’r cyfle iddynt leisio eu safbwyntiau.” Yr adroddiad