Cyhoeddwyd 17/01/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Y Pwyllgor Menter, Arloesi a Rhwydweithiau i drafod Gwasanaethau Rheilffordd
Yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher, 17 Ionawr 2007, bydd Pwyllgor Menter, Arloesi a Rhwydweithiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried y ddarpariaeth gwasanaethau rheilffordd a geir yng Nghymru. Bydd yr Aelodau’n trafod y mater â chynrychiolwyr First Great Western; Yr Adran Drafnidiaeth a Passenger Focus.
Bydd y Pwyllgor yn derbyn hefyd adroddiad gan y Gweinidog, ac yn ystyried Rhaglenni Rhanbarthol Cystadleurwydd a Chyflogaeth Dwyrain Cymru (Amcan 2 gynt).
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, Bae Caerdydd o 9.00am tan 12.15pm ddydd Mercher 17 Ionawr.
Manylion llawn ac agenda
I gadw sedd ffoniwch 0845 010 5500 neu e-bostiwch archebu@wales.gsi.gov.uk Cofiwch hysbysu’r swyddfa docynnau am unrhyw anghenion arbennig a fo gennych. Mae’r llinell archebu ar agor Llun- Gwener rhwng 9:00am a 4:30pm.