Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn galw am wasanaeth eirioli annibynnol.

Cyhoeddwyd 06/03/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn galw am wasanaeth eirioli annibynnol.  

Mae adroddiad am wasanaethau eirioli i bobl ifanc Cymru gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wedi galw am sefydlu gwasanaeth eirioli annibynnol i bobl ifanc cyn gynted â phosibl.

Yn adroddiad y Pwyllgor, sef Gwasanaethau Eirioli i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru, a gyhoeddwyd heddiw, mae nifer o argymhellion, gan gynnwys sefydlu uned eirioli a gaiff ei hariannu’n ganolog, gyda chyfrifoldeb am gomisiynu gwasanaethau eirioli annibynnol mewn ardaloedd lleol, a chynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o benderfynu pa ddarparwyr eiriolaeth ddylai gael cytundebau ar gyfer ardaloedd lleol.

Wrth gynnal yr ymchwiliad, casglodd Aelodau’r Pwyllgor dystiolaeth gan amrywiaeth eang o dystion, gan gynnwys y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, comisiynwyr a darparwyr eiriolaeth, cyrff ymbarél, cyrff sy’n cynrychioli pobl ifanc a hefyd gan bobl ifanc eu hunain drwy gyfrwng ymweliadau rapporteur â grwpiau sy’n defnyddio gwasanaethau eirioli.

Daeth pedair prif thema i’r amlwg yn ystod yr ymchwiliad, sef yr angen i gael gwasanaethau eirioli annibynnol; yr angen i gael eiriolwyr medrus, yr angen i sicrhau gwasanaethau eirioli hygyrch a’r angen i gael parhad gwasanaeth, ac mae’r Pwyllgor wedi gwneud argymhellion sy’n ymdrin â’r materion hyn.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Helen Mary Jones AC: “Yn aml iawn, nid ydym yn cymryd digon o sylw o farn plant a phobl ifanc, er bod rhai ohonynt dro 16 oed ac yn ddigon hen i briodi, i ymuno â’r Fyddin ac i dalu trethi. Mae cyfrifoldeb arnom fel gwleidyddion i gynrychioli’r rheini nad oes ganddynt lais