Y rhwystrau i fenywod ym myd chwaraeon a gwyddoniaeth ar frig yr agenda wrth i'r Cynulliad nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Cyhoeddwyd 04/03/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y rhwystrau i fenywod ym myd chwaraeon a gwyddoniaeth ar frig yr agenda wrth i'r Cynulliad nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

4 Mawrth 2013

Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu menywod blaenllaw o fyd gwyddoniaeth a chwaraeon i'r Cynulliad ar 7 ac 8 Mawrth, a hynny i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Bydd dwy sesiwn yn edrych ar y rhwystrau sy'n wynebu menywod sydd eisiau bod yn wyddonwyr a pheirianwyr, mynd ar drywydd gyrfa chwaraeon broffesiynol neu hyd yn oed ond cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.

Mae'n rhan o ymgyrch “Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus” y Llywydd, sydd â'r bwriad o fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu menywod o bob cefndir.

Ar 7 Mawrth, am 10.00, bydd y Farwnes Susan Greenfield yn rhoi'r prif anerchiad i gynulleidfa yn y Pierhead. Mae'r digwyddiad hwn ar agor i'r cyhoedd ac mae llefydd ar gael drwy ffonio 0845 010 5500 neu drwy anfon e-bost at archebu@cymru.gov.uk

Y bore canlynol, 8 Mawrth (Diwrnod Rhyngwladol y Menywod) am 8.00, bydd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru, yn arwain trafodaeth, gyda chynulleidfa wadd, am faterion tebyg ym myd chwaraeon (gweler y nodiadau i olygyddion am fywgraffiadau’r cyfranogwyr).

Dywedodd y Llywydd, “Mae'n anrhydedd croesawu enwau mor amlwg o fyd gwyddoniaeth a chwaraeon i'r Cynulliad.”

“Mae'r menywod hyn yn arweinwyr yn eu maes ac yn ysbrydoliaeth i bob menyw y gallant hwythau gyrraedd y nod.

Fodd bynnag, eithriadau ydynt, yn hytrach na'r rheol. Pan edrychwch ar yr enwau mawr ym myd chwaraeon a gwyddoniaeth, mae'r mwyafrif llethol yn ddynion.

“Mae'r menywod hyn yn fodelau i'w hefelychu, felly gobeithio y caiff y digwyddiadau hyn ddwy fath o effaith: yn gyntaf, bod yn ysbrydoliaeth i fenywod yng Nghymru ac yn ail, rhoi'r mater ar frig agenda'r cyfryngau ac agenda'r cyhoedd.”

Dim ond 12.3 y cant o'r rhai sy'n gweithio mewn swyddi Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg sy'n fenywod. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod 45.1 y cant o'r holl weithlu yn fenywod a 12.7 miliwn o fenywod yn gweithio yn y DU. (Ffynhonnell: Y Brifysgol Agored 2010)

I gyrraedd yr un lefel â dynion, byddai'n rhaid i bedair gwaith cymaint o fenywod weithio mewn swyddi Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg.

Hefyd, dim ond 29.8 y cant (185,000) o raddedigion pynciau STEM o oed gwaith yn y DU sy'n cael eu cyflogi mewn swyddi Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg o'i gymharu â hanner (782,000) yr holl raddedigion STEM o oed gwaith sy'n ddynion.

“Byddwn yn edrych ar grwyn banana, tagfeydd a'r prif drapiau,” dywedodd y Farwnes Greenfield cyn ei haraith.

“Y crwyn banana yw'r adegau hynny pan ydym yn llithro oherwydd y mythau sydd wedi'u creu: yn gyntaf, bod ein galluoedd, a'n diffygion, yn ganlyniad geneteg yn unig; yn ail, bod angen i'r 'gwir' arweinwyr mewn gwyddoniaeth fod yn ddynion gwyn, canol oed ac, yn drydydd, y dylid ystyried menywod mewn gwyddoniaeth yn llai galluog.”

“Yna, ceir yr holl dagfeydd sydd angen mynd i'r afael â hwy, gydag ailfeddwl strwythur gyrfa, polisïau sy'n ystyriol o blant a chynlluniau 'Dychwelyd' i'r rhai sydd wedi bod i ffwrdd o'r gwaith oherwydd gofal plant.

“Yn y cyfamser, mae'r prif drapiau yn cynnwys diffyg hyder, methiant i fanteisio ar gryfderau gwahanol menywod a dynion a methiant i ddeall y perygl o ddrysu rhwng y proffesiynol a'r personol.

“Fodd bynnag, y trap mwyaf yw anwybyddu'r pwysigrwydd o ddod o hyd i'r mentor cywir, sef 'rhywun sy'n credu ynddoch chi fwy nag ydych chi'n credu ynddoch chi eich hun.”

Yr un yw'r darlun ym myd chwaraeon. Mae gwaith ymchwil gan Chwaraeon Cymru wedi datgelu bod mwy o ddynion (62 y cant) yn cymryd rhan mewn chwaraeon na menywod (51 y cant); dynion sydd fwyaf amlwg mewn clybiau chwaraeon pur (22 y cant o ddynion ac 11 y cant o fenywod); ac mae genethod yn rhoi'r gorau i chwaraeon yn yr ysgol yn gynt na bechgyn (ym Mlwyddyn 10, mae 52 y cant o fechgyn yn cymryd rhan mewn gweithgaredd chwaraeon o leiaf unwaith yr wythnos o'i gymharu â 44 y cant o enethod).

Dywedodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru:

“Rydym wedi gweld rhai camau cadarnhaol yn ddiweddar i fenywod mewn chwaraeon, gyda Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn aml yn cael eu galw’n ‘Gemau’r Genethod’; mae ein prif athletwyr benywaidd yn fwy gweledol nag erioed o’r blaen, ond rydym yn ymwybodol iawn bod ffordd bell iawn i fynd o hyd.”

“Fel sefydliad, mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu menywod mewn chwaraeon, o gyfranogi i gael modelau amlwg i’w hefelychu a chael menywod yn gweithio ar lefelau uchaf chwaraeon. Mae digwyddiadau fel hwn i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn llwyfan gwych i ni i gael siarad â menywod mwyaf blaenllaw Cymru ac i gael trafod, dadlau a chodi proffil rhai o’r materion pwysig hyn.”

Bywgraffiadau:

Mae'r Farwnes Susan Greenfield CBE yn wyddonydd, awdur, darlledwr ac aelod o Dy'r Arglwyddi. Gan arbenigo mewn ffisioleg yr ymennydd, mae Susan yn ymchwilio i effaith technoleg yr unfed ganrif ar hugain ar y meddwl, sut mae'r ymennydd yn llywio'r ymwybod a dulliau newydd o ymdrin â salwch niwro-ddirywiol fel clefyd Alzheimer neu Parkinson. Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr i'r darllennydd cyffredin ar faterion sy'n ymwneud a'r meddwl a'r ymennydd. Mae'n ymddangos yn gyson ar y radio a'r teledu ac yn aml yn rhoi anerchiadau i'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mae Laura McAllister yn Athro Llywodraethu yn Ysgol Reoli Prifysgol Lerpwl. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, a graddiodd o Ysgol Economeg Llundain. Hefyd, cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Theori Wleidyddiol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd yn aelod o Gomisiwn Richard ar bwerau a threfniadau Cynulliad Cenelaethol Cymru a gyflwynodd adroddiad ym mis Mawrth 2004. Prif ddiddordebau academaidd Laura yw gweinyddiaeth gyhoeddus a gwleidyddiaeth. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn datganoli; rôl comisiynau mewn llunio polisïau; gwleidyddiaeth ac etholiadau Cymru; chwaraeon a pholisi cyhoeddus; rhywedd a gwleidyddiaeth. Mae'n Athro Ymweld er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Technoleg Queensland ac Ysgol Weinyddiaeth Genedlaethol Tsieina yn Beijing. Mae Laura wedi gweithio fel dadansoddwr gwleidyddol i BBC Cymru ac mae’n sylwebydd rheolaidd ar wleidyddiaeth ac etholiadau Cymru a Phrydain.

Ym mis Chwefror 2010, penodwyd Laura'n Gadeirydd Chwaraeon Cymru, ac fe'i hail-benodwyd yn 2013. Mae hi'n gyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru a chyn-gapten y tîm cenedlaethol gyda 24 o gapiau, ac mae’n aelod o fwrdd UK Sport. Roedd yn aelod o Gyngor Chwaraeon Cymru rhwng mis Ebrill 2006 a mis Ionawr 2010 ac yn is-gadeirydd o fis Mawrth 2007 ymlaen. Mae Laura hefyd yn Aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru ac yn aelod o Bwyllgor Cynghori Cymru y Cyngor Prydeinig. Hi hefyd yw Cadeirydd Menywod yr IWA.