Y Senedd yn cael sylw ledled y byd wrth iddi groesawu gwyl gerddorol fawreddog
23 Hydref 2013
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal derbyniad swyddogol Gwyl Cerddoriaeth y Byd WOMEX ar 25 Hydref.
Dyma’r tro cyntaf i’r wyl gael ei chynnal yng Nghymru, ac mae’n ceisio dod â phob rhan o’r diwydiant cerddoriaeth at ei gilydd er mwyn darganfod artistiaid newydd a gwerthu cynnyrch newydd.
Cynhelir cynadleddau yn ystod y dydd yn Arena Motorpoint Caerdydd rhwng 24 a 26 Hydref, a bydd lleoliadau ym Mae Caerdydd yn dod yn fyw gyda’r nos wrth iddynt arddangos y gerddoriaeth orau o bedwar ban byd mewn cyfres o gyngherddau a digwyddiadau cerddorol.
Ar 25 Hydref, bydd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, yn cynnal derbyniad swyddogol yn y Senedd.
"Bydd diwydiant cerddoriaeth y byd yn canolbwyntio ar Gymru, ac mae hynny’n wych," dywedodd y Llywydd.
"Y diwydiant cerddoriaeth yw un o sectorau mwyaf y byd, a bydd y ffaith ei bod yn cynnal un o wyliau mwyaf nodedig y sector hwnnw yn sicr yn rhoi Cymru ar y map.
"Yn ogystal â dathlu cerddoriaeth y byd, bydd yr wyl yn gyfle i arweinwyr y diwydiant wneud busnes.
"Mae hefyd yn gyfle i artistiaid, cynhyrchwyr a’r sector cerddoriaeth yng Nghymru hyrwyddo eu sgiliau a’u doniau ar lwyfan rhyngwladol.
"A thrwy groesawu arweinwyr y diwydiant a phobl sy’n caru cerddoriaeth o bob cwr o’r byd i Gaerdydd, mae hefyd yn fodd i edrych ar gyfraniad Cymru i’r byd.
"Rydym yn ymfalchio yn y ffaith ein bod yn ddeddfwrfa fodern ac eangfrydig, sy’n datblygu ac sydd eisoes, mewn byr amser, wedi gwneud cyfraniad pwysig a chreu cryn argraff ar lwyfan rhyngwladol.
"Rydym yn ddemocratiaeth gymharol ifanc o hyd, ac nid ydym ond newydd gyrraedd ein glasoed. Ond yn y cyfnod byr hwnnw, rydym wedi creu cryn argraff ar lwyfan rhyngwladol, yn enwedig ym maes e-ddemocratiaeth, ymgysylltu â dinasyddion, gweithio’n ddwyieithog a’r ffordd rydym yn dwyn y llywodraeth i gyfrif.
"Mae cynnal digwyddiad rhyngwladol mawreddog fel WOMEX yn enghraifft arall o’r ffordd rydym yn aeddfedu fel democratiaeth seneddol, ac fel cenedl."
I gael rhagor o wybodaeth am yr wyl, cliciwch yma.