Y Senedd yn sicrhau, am y tro cyntaf, y bydd materion Ewropeaidd yn cael eu gwthio i frig agenda’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 02/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Senedd yn sicrhau, am y tro cyntaf, y bydd materion Ewropeaidd yn cael eu gwthio i frig agenda’r Cynulliad

Am y tro cyntaf yn hanes Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Rosemary Butler AC, y Llywydd, a chadeiryddion pwyllgorau craffu’r Cynulliad, wedi cynnal cyfarfod swyddogol ag Aelodau Cymru o Senedd Ewrop, i drafod ymgysylltiad Cymru â materion yr UE.

Daeth tri Aelod o Senedd Ewrop, sef Jill Evans, Dr Kay Swinburne a Derek Vaughan, i’r sesiwn yn y Cynulliad ar 2 Mai.

Trefnwyd y cyfarfod i gydnabod mor bwysig ydyw bod Aelodau’r Cynulliad a chynrychiolwyr Cymru yn Ewrop, yn gweithio’n effeithiol â’i gilydd dros Gymru, a hynny mewn cyfnod pwysig o ran trafodaethau ym Mrwsel, ar gynigion allweddol i Gymru, fel cronfeydd strwythurol, diwygiadau o ran pysgodfeydd ac amaethyddiaeth, a rhaglenni ymchwil ac addysg.

Dywedodd Mrs Butler: “Rydym wedi newid ein dull gweithredu o ran materion Ewropeaidd yn y Pedwerydd Cynulliad, drwy eu prif ffrydio ar draws holl bwyllgorau’r Cynulliad.

“Rydym o’r farn fod y dull newydd hwn o integreiddio materion Ewropeaidd a materion rhyngwladol yng ngwaith yr holl bwyllgorau yn gwella effeithiolrwydd yr ymgysylltiad sydd gennym â’r materion pwysig hyn.

“Gall Aelodau’r Cynulliad drin a thrafod amrywiaeth o faterion yn fanwl bellach, ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl drwy Bwyllgor Ewropeaidd arbenigol.

“Mae’r cyfarfod hwn yn rhan o’r broses, a bydd yn sicrhau bod cadeiryddion pwyllgorau ac Aelodau Cymru o Senedd Ewrop yn ymwybodol o’r holl faterion y dylent wybod amdanynt er mwyn gwasanaethu pobl Cymru.”