Y Senedd yn troi’n goch i gefnogi Cymru yng nghystadleuaeth Ewro2016

Cyhoeddwyd 09/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2016

​Bydd y Senedd yn cael ei goleuo’n goch nos Wener 10 Mehefin cyn gêm gyntaf Cymru yng nghystadleuaeth Ewro2016 yn erbyn Slofacia ddydd Sadwrn i gefnogi tîm pêl-droed Cymru.


Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymuno â nifer o adeiladau ledled Cymru i ddymuno’n dda i dîm Cymru yn ei dwrnamaint mawr cyntaf ers 1958. Yr adeiladau eraill sy’n cymryd rhan yw swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays a Chanolfan Mileniwm Cymru, yn ogystal â’r safleoedd CADW a ganlyn: Castell Conwy, Castell Caernarfon, Castell Harlech, Castell Caerffili a Chastell Coch.


Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad:

“Hoffwn ddymuno’n dda i Chris Coleman a thîm Cymru. Mae perfformiad y tîm yn y gemau rhagarweiniol wedi ysbrydoli a chyffroi’r genedl.”
“Rwy’n siŵr y bydd llawer ohonom yn dilyn tîm Cymru wrth iddynt wynebu’r timau eraill yn Grŵp B, gan obeithio y gallant symud ymlaen ymhellach yn y gystadleuaeth.
“Felly, ar ran holl Aelodau a staff y Cynulliad, hoffwn ddymuno’n dda i dîm Cymru cyn iddynt fentro i Ffrainc.” 

Bydd y Senedd yn cael ei goleuo’n goch ar y nosweithiau a ganlyn: Nos Wener 10 Mehefin, nos Fercher 15 Mehefin a nos Sul 19 Mehefin.