Ymateb Comisiwn y Cynulliad i'r Arolwg Urddas a Pharch

Cyhoeddwyd 19/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

​Nid oes lle yn y Cynulliad i ymddygiad amhriodol o unrhyw fath.

Fel Comisiynwyr, cynrychiolwyr etholedig a chyflogwyr, rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i greu gweithle cynhwysol a pharchus sy'n rhydd o unrhyw fath o aflonyddwch o ddifrif.

Ers mis Hydref y llynedd, rydym wedi gweithio gyda chydweithwyr o bob plaid a staff i ddeall yn well sut mae urddas a pharch yn cael eu dilyn yn y Cynulliad. Yn ddiweddar, rydym wedi cymeradwyo polisi newydd ac wedi cyflawni nifer o welliannau i godi ymwybyddiaeth o'r materion perthnasol. At hynny, rydym wedi gwneud ein prosesau adrodd yn glir ac wedi gwella'r cymorth a ddarparwn.

Fel rhan o'r rhaglen waith gynhwysfawr hon, cynhaliwyd arolwg ar-lein anhysbys a chyfrinachol rhwng 19 Ebrill a 11 Mai a oedd ar agor i holl staff y Comisiwn, staff cymorth Aelodau ac Aelodau’r Cynulliad. Nod yr arolwg oedd canfod a ydym yn cynllunio'n briodol ac i edrych ar brofiadau ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad, mewn swyddfeydd etholaethol neu unrhyw le arall y mae unigolion yn gwneud eu gwaith. Roedd llawer o'r cwestiynau a ofynnwyd yn seiliedig ar arolwg a gafodd ei ddatblygu a'i gynnal ar draws y Gwasanaeth Sifil. Roeddem hefyd yn awyddus i sicrhau bod cyfranogwyr yn cael eu hatgoffa o'r cymorth emosiynol sydd ar gael o ystyried y pwnc sensitif.

Mae Comisiwn y Cynulliad yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran. Cawsom 128 o ymatebion, sy'n cyfateb i gyfradd cyfranogi o 16.8% o'r rhai a gafodd eu gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg. Er bod y sampl yn fach, rydym yn gwerthfawrogi'r safbwyntiau a fynegwyd a byddant yn cyfrannu at ein gwaith parhaus ar urddas a pharch, yr ydym yn cydnabod sy'n rhaid ei ddatblygu ymhellach gyda chyflymder a phwrpas.

Rydym wedi cymryd dull eang at ddisgrifio'r hyn sy'n cyfrif fel ymddygiad amhriodol, sy'n rhoi'r dioddefwr wrth wraidd ein polisi Urddas a Pharch. Nid yw p'un a fyddai pobl eraill yn ei weld yn ddifrifol mor bwysig. Mae’r polisi yn cwmpasu’r holl ystod o ymddygiad nad dymunwyd – hynny yw, ymddygiad nad yw’n cael ei annog na’i dderbyn gan y dioddefwr, ni waeth a fwriadwyd iddo beri tramgwydd, ac ni waeth a yw’n digwydd mwy nag unwaith neu a yw’n ddigwyddiad unigol.

Mae'r canlyniadau, serch hynny, yn anghyfforddus i ni fel Comisiwn y Cynulliad eu darllen, ac yn wir i holl Aelodau’r Cynulliad. Er bod y rhan fwyaf o gyfranogwyr yn nodi nad ydynt erioed wedi profi na gweld ymddygiad amhriodol, mae'r canlyniadau yn rhoi mandad digonol am newidiadau radical i'r ffordd yr ydym ni fel unigolion, ac ar y cyd fel sefydliad democrataidd Cymru, yn deall ymddygiad amrhiodol, sut rydym yn rhoi gwybod am achosion ac yn darparu cymorth i'r rhai sydd wedi dioddef ymddygiad amhriodol neu sydd wedi'u cyhuddo o ymddwyn yn amrhiodol.

Mae gan bob un ohonom – Aelodau’r Cynulliad, staff cymorth, staff y Comisiwn a chontractwyr – rôl i'w chwarae o ran creu'r diwylliant a'r amgylchedd cywir yma yn senedd Cymru. Bydd yr hyfforddiant urddas a pharch sy'n cael ei gyflwyno'n raddol i Aelodau a staff yn helpu i godi ymwybyddiaeth, ond yr ymddygiad rydym yn ei ddangos o ddydd i ddydd fydd y catalydd i sbarduno newid. Mae gan bob un ohonom, rheolwyr staff ac Aelodau’r Cynulliad, gyfrifoldeb personol dros sicrhau bod y newid hwnnw'n digwydd.

Yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Mai, pan gymeradwywyd y polisi Urddas a Pharch gan y Cynulliad, cydnabuwyd bod angen i'r Cynulliad feithrin ymddiriedaeth yn y systemau cwyno. Yn gyffredinol, mae ystod o ymatebion yn dangos lefelau gwahanol o ymddiriedaeth yn ein prosesau a gweithdrefnau. Fodd bynnag, mae hefyd yn darparu tystiolaeth bellach ei bod hi'n anodd rhoi gwybod am wleidyddion neu uwch reolwyr, a chodwyd pryderon ynghylch y posibilrwydd y gellid cyfyngu ar yrfa rhywun yn sgil gwneud cwynion ffurfiol. Mae hynny'n gwbl annerbyniol.

Mae'r arolwg yn awgrymu bod profiadau lle mae achosion o ymddygiad amhriodol wedi cael eu datrys yn effeithiol heb fod angen cychwyn ar weithdrefnau ffurfiol, a cheir cydnabyddiaeth gyffredinol bod y Cynulliad yn lle da i weithio ynddo. Ond, yn amlwg, mae llawer mwy i'w wneud er mwyn newid ymddygiad personol fel ei fod yn gyson â pholisi Urddas a Pharch ac i sicrhau bod unigolion yn teimlo wedi'u hymrymuso i ddod ymlaen er mwyn gallu datrys eu cwynion neu bryderon.

Mae'r holl awgrymiadau ac adborth a ddaeth i law ynghylch datblygad proffesiynol gwell wrthi'n cael eu cynllunio neu eu gweithredu fel eu bod yn dod yn norm ar draws ein rhaglenni hyfforddiant ac offer cyfathrebu mewnol. Byddwn hefyd yn monitro ac adolygu ymgorffori ac effeithiolrwydd rôl y Swyddog Cyswllt newydd dros amser. Bydd unrhyw newidiadau mewn arfer yn rhan o ymgynghoriad â staff ac undebau yn y ffordd arferol.

Cyn y datganiad hwn, ddoe fe gyflwynodd y Llywydd ganfyddiadau'r arolwg hwn i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar gyfer ei ystyriaeth yn ei ymchwiliad “Creu'r Diwylliant Cywir: Ymchwiliad i'r Adolygiad o'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad“. Nid oes gennym unrhyw amheuaeth y bydd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth hon yn ofalus ac yn ei defnyddio wrth iddo ddod i benderfyniadau a chyflwyno argymhellion ar gyfer camau yn y dyfodol ar draws y sefydliad.

Er mwyn dangos y teimlad cryf ar y mater hwn, mae'r Llywydd, ar ran y Comisiwn, hefyd wedi ysgrifennu at arweinwyr pleidiau yn tynnu sylw at y prif ganfyddiadau gan ofyn iddynt godi'r materion o fewn eu grwpiau eu hunain. Yn yr un modd, gofynnwyd i Fwrdd Gweithredol Comisiwn y Cynulliad ystyried adroddiad yr arolwg yn fanwl. Rydym am i bob rhan o'r sefydliad gymryd y canfyddiadau hyn o ddifrif.

Heddiw, rydym yn ailddatgan y farn na fyddwn yn goddef ymddygiad amhriodol gan Aelodau, eu staff na staff y Comisiwn. Ar y cyd, mae gennym i gyd gyfrifoldeb i sicrhau bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn amgylchedd diogel i'r rhai sy'n gweithio yma, i'r rhai sy'n ymweld â'r ystâd ac i unrhyw un sy'n ymwneud â ni. Mae'r egwyddorion hynny'n berthnasol lle bynnag rydym yn gwneud ein gwaith.

Hoffem atgoffa staff ac Aelodau a gymerodd ran yn yr arolwg fod cymorth emosiynol ar gael. Mae manylion am ein rhif Rhadffôn, Swyddogion Cyswllt a'r cymorth sydd ar gael i'w gweld yma ar ein tudalennau Urddas a Pharch.

Elin Jones, Llywydd

Joyce Watson, Comisiynydd y Cynulliad

Suzy Davies, Comisiynydd y Cynulliad

Adam Price, Comisiynydd y Cynulliad

Caroline Jones, cyn Gomisiynydd y Cynulliad

 


 

Arolwg Urddas a Pharch: Adroddiad ar y canlyniadau (PDF, 2.87 MB)