Ymateb Llywydd y Cynulliad i gyhoeddi Bil Cymru

Cyhoeddwyd 20/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymateb Llywydd y Cynulliad i gyhoeddi Bil Cymru

20 Mawrth 2014

Rwyf yn croesawu cyflwyno Bil Cymru.

Mae’n bwysig nodi bod Llywodraeth y DU wedi newid y Bil, gan gydnabod bod angen y pwer ar y Cynulliad i newid ei weithdrefnau cyllidebol. Dyma bwer y gwnes i a phobl eraill alw amdano yn ystod y broses o graffu ar y Bil drafft. Bydd newidiadau o’r fath yn hollbwysig oherwydd, pan roddir y pwer i Lywodraeth Cymru amrywio trethi ac i fenthyca, bydd angen i’r Cynulliad graffu ar y ffordd y cesglir arian cyhoeddus, yn ogystal â’r ffordd y caiff ei wario. Rwy’n falch bod Llywodraeth y DU wedi ymateb i’r mater hwn, ond bydd angen imi ystyried y cymalau newydd yn fanwl er mwyn gweld a ydynt yn rhoi’r pwerau priodol i’r Cynulliad.

Rwy’n dal i gredu bod angen ystyried gwneud newidiadau pellach i’r Bil ar ei daith drwy Dy’r Cyffredin. Er enghraifft, fe allai – ac fe ddylai’r – Bil fynd i’r afael ag anghysondebau yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, er mwyn adlewyrchu’n well statws y Cynulliad fel corff seneddol aeddfed. Byddai’n fwy priodol rhoi’r hawl i’r Cynulliad alw ei hun yn Senedd erbyn hyn – pwynt a gydnabuwyd yn adroddiad diweddar Comisiwn Silk. Mae’n gyfle hefyd i adolygu rhai o’r cyfrifoldebau sydd wedi dyddio y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn parhau’n gyfrifol amdanynt mewn perthynas â’r Cynulliad.

Yn olaf, mae’r Bil yn ei gwneud yn bwysicach fyth mynd i’r afael â maint y Cynulliad. Mae’n hanfodol nodi nad lleihau’r baich ar Aelodau yw diben fy ngalwad i gynyddu nifer yr Aelodau. Y nod yw rhoi mwy o rym i’r Cynulliad gyflawni gwaith craffu democrataidd. Pan fo Gweinidogion y Llywodraeth yn cyflwyno polisïau, cyfreithiau neu wariant newydd, mae’n hanfodol bod gan Aelodau yr amser, yr arbenigedd a’r wybodaeth i herio’r cynigion hynny mewn modd cadarn. Bydd cynyddu nifer yr Aelodau yn ei gwneud yn haws i ddwyn Gweinidogion i gyfrif, ac yn sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru.

Y Fonesig Rosemary Butler AC

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru