Ymateb y Llywydd i gyhoeddiad Bil Drafft Cymru

Cyhoeddwyd 20/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/10/2015

 
"Heddiw mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cyhoeddi Bil drafft Cymru, Bil a fydd yn newid y setliad cyfansoddiadol i Gymru yn sylweddol. 

 
Dros yr wythnosau nesaf byddaf yn astudio manylion y Bil drafft er mwyn sicrhau y bydd yn cyflwyno setliad cyfansoddiadol cadarn ar gyfer Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â deialog adeiladol â'r Ysgrifennydd Gwladol, Aelodau Seneddol ac Aelodau'r Cynulliad yn ystod y broses cyn deddfu ar y Bil cyfansoddiadol pwysig hwn.

Rwy'n falch bod y Bil drafft yn mynd i'r afael ag ymrwymiad Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth y DU - sy'n ymrwymiad pwysig - i roi pŵer i'r Cynulliad dros ei drefniadau mewnol a'i faterion etholiadol ei hun.

Fodd bynnag, rwy'n siomedig â'r ffordd yr ymdriniwyd yn y Bil drafft â'r newid o fodel rhoi pwerau i fodel cadw pwerau. Ar y mater hwn, rwyf wedi datgan yn eglur bod fy nghefnogaeth i'r Bil yn amodol ar iddo fodloni tri maen prawf allweddol: rhaid iddo fod yn eglur, yn ymarferol, a pheidio â gwthio pwerau presennol y Cynulliad yn ôl. Yn anffodus, rwy'n credu y byddai'r drafft presennol yn gyfystyr â cham yn ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol ac na fyddai'n cyflawni setliad cyfansoddiadol a fydd yn parhau i Gymru, ac i'r DU yn ei chyfanrwydd. Os bydd Llywodraeth y DU yn symud ymlaen fel a gynigir ar hyn o bryd, byddwn yn rhagweld galwadau bron ar unwaith am Fil Cymru arall eto, rhywbeth nad oes neb ohonom yn dymuno'i weld. Rwyf felly wedi fy nghalonogi gan ymrwymiad yr Ysgrifennydd Gwladol i barhau â'r ddeialog i sicrhau setliad hirhoedlog.

Bydd y Bil drafft hwn yn destun craffu manwl yn y Cynulliad ac rwy'n annog sefydliadau a dinasyddion i ystyried beth allai hyn ei olygu iddynt hwy ac i ddyfodol y Cynulliad, a rhoi gwybod inni.

Rhaid inni sicrhau bod y setliad hwn yn rhoi i'r Cynulliad yr adnoddau i gyflwyno deddfwriaeth effeithiol ar gyfer pobl Cymru, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda phartneriaid mewn modd adeiladol i gyflawni'r nod hwn."

Y Fonesig Rosemary Butler AC
Y Llywydd