A yw brand Cymru yn corddi'r dyfroedd mewn marchnadoedd ar draws y byd? Dyna'r cwestiwn a ofynnir gan ymchwiliad un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Heddiw (13 Gorffennaf) mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lansio ei ymchwiliad Gwerthu Cymru i'r Byd gan alw ar bobl sydd â diddordeb i rannu eu barn.
Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar:
Cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer allforwyr, a mewnfuddsoddi;
A allai marchnata rhyngwladol gan brifysgolion Cymru hefyd fod o fudd i Gymru ar yr un pryd;
Llwyddiant gweithgareddau marchnata rhyngwladol Croeso Cymru; a
Beth fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei olygu o ran gwerthu Cymru dramor.
Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
"Gyda gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y gorwel, mae'r Prif Weinidog wedi siarad am yr angen i 'werthu Cymru fel erioed o'r blaen'. Bydd yr ymchwiliad hefyd yn edrych ar beth yn union y mae hynny'n ei olygu. Sut mae Cymru'n gwerthu ei hun heddiw fel cyrchfan ar gyfer masnach, twristiaeth a hyfforddiant?
"Gall digwyddiadau fel rownd derfynol y Gynghrair Pencampwyr UEFA diweddar gael effaith fawr ar y llwyfan byd-eang. Rydym am weld beth arall y mae Cymru'n ei wneud yn dda, a pha wersi y gellir eu dysgu gan wledydd tebyg eu maint ledled y byd."
Gellir anfon ymatebion i SeneddESS@cynulliad.cymru erbyn 1 Medi 2017. Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad ar dudalennau gwe'r Pwyllgor neu drwy gyfrif Twitter y Pwyllgor.