Ymchwiliad i weld pa fudd mae pobl ifanc yn ei gael o ddarpariaethau’r Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru)
11 Tachwedd 2011
Hoffai Cynulliad Cenedlaethol Cymru glywed barn pobl ifanc i weld pa fudd maent yn ei gael o ddarpariaethau Mesur Dysgu a Sgiliau Llywodraeth Cymru.
Nod y Mesur, a basiwyd yn 2009, yw sicrhau erbyn 2015 bod 95 y cant o bobl ifanc Cymru yn barod am addysg uwch neu’n barod i weithio mewn swyddi sgiliau uchel.
Mae hefyd yn rhoi hawliau i bobl 14 i 19 oed gael rhagor o ddewis ynghylch y mathau o gyrsiau y gallant eu hastudio ac mae’n cynnig help, cymorth a chyngor gyrfaoedd.
Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn cynnal ymchwiliad i weld a yw’r Mesur yn cyflawni ei nodau.
Hwn fydd y tro cyntaf i unrhyw bwyllgor ymchwilio i weld a yw cyfreithiau a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio’n iawn.
Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Byddwn yn gofyn pa effaith mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) wedi’i gael ar bobl ifanc yng Nghymru ac a yw’r ddeddf hon wedi newid nifer y bobl sy’n penderfynu aros mewn addysg neu hyfforddiant.”
“Hoffem wybod hefyd am unrhyw faterion ymarferol neu dechnegol sy’n wynebu disgyblion, ysgolion a cholegau.
“Yr unig ffordd y gallwn gael darlun clir o berfformiad y ddeddf hon yw drwy ofyn am farn a phrofiadau pobl ifanc a ddylai fod yn cael budd o’r Mesur.
“Dyna pam ein bod wedi lansio arolwg ar-lein sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc rannu eu barn gyda ni. Bydd y wybodaeth a gasglwn o’r arolwg yn ychwanegu at ganfyddiadau ein hymchwiliad.”
Ers 2009, mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) wedi bod yn cael ei roi ar waith gam-wrth-gam yn ôl blynyddoedd ysgol a’r ardal lle mae pobl yn byw. Mae hyn yn golygu mai dim ond i ddisgyblion blynyddoedd 10, 11 a 12 mewn ysgol uwchradd neu goleg mae’r arolwg yn berthnasol iddynt.
Rhaid cwblhau’r arolwg ar-lein erbyn dydd Gwener 9 Rhagfyr 2011.
Dylid cyflwyno tystiolaeth am gylch gorchwyl cyffredinol yr ymchwiliad erbyn 22 Tachwedd.
Gellir dod o hyd i gylch gorchwyl llawn yr ymchwiliad i weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 yma.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yma.
Gellir dod o hyd i’r arolwg i bobl ifanc ei gwblhau yma.