Ymchwiliad newydd i’r cymorth ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru
3 Ebrill 2014
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ar ymchwiliad i’r cymorth ar gyfer diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
Bydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn edrych ar effeithiolrwydd y ‘brand’ twristiaeth yng Nghymru ac yn edrych pa mor llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i gynyddu nifer yr ymwelwyr i Gymru o rannau eraill o’r DU a thramor.
Bydd hefyd yn edrych yn fanwl ar berfformiad a gweithgareddau marchnata Croeso Cymru.
Mae twristiaeth yn cyfrannu tua £6 biliwn y flwyddyn i economi Cymru ac yn cyflogi dros 200,000 o bobl. Amcangyfrifir bod 90 y cant o’r gwariant gan ymwelwyr yng Nghymru yn dod gan breswylwyr y DU.
Dywedodd William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: "Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed bod ein diwydiant twristiaeth yn cynyddu 10 y cant erbyn 2020".
"Bydd y Pwyllgor yn edrych ar faint o gynnydd a wneir wrth gyrraedd y targed hwnnw, ac yn gofyn, a yw’r targed yn ddigon uchelgeisiol yn wir?
"Rydym hefyd am wybod pa mor effeithiol yw ‘brand’ twristiaeth Cymru, a byddwn yn archwilio perfformiad Croeso Cymru, gan gynnwys dull y corff o farchnata twristiaeth yng Nghymru yn y DU a thramor.
“Mae twristiaeth yn cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru ac yn darparu’r bara menyn i lawer o gymunedau ledled y wlad, felly mae’n hanfodol bod y sector hwn yn iach ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”
Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:
Asesu’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gyflawni ymrwymiadau ei Rhaglen Lywodraethu sy’n ymwneud â thwristiaeth, yn ogystal ag asesu addasrwydd y nodau hyn;
Asesu’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gyflawni ymrwymiadau ei Rhaglen Lywodraethu sy’n ymwneud â thwristiaeth, yn ogystal ag asesu addasrwydd y nodau hyn;
Asesu’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gyflawni ymrwymiadau ei Rhaglen Lywodraethu sy’n ymwneud â thwristiaeth, yn ogystal ag asesu addasrwydd y nodau hyn;
Asesu uchelgais a gallu nod Llywodraeth Cymru i gynyddu enillion twristiaeth 10% erbyn 2020, yn ogystal ag asesu’r cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd y nod hwn;
Asesu addasrwydd ac effeithiolrwydd y strwythurau a’r gefnogaeth sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, a’i chynlluniau ar gyfer cymorth rhanbarthol yn y dyfodol.
Gall unrhyw un sydd am gyfrannu i’r ymchwiliad wneud hynny drwy anfon e-bost i Pwyllgor.Menter@cymru.gov.uk neu drwy ysgrifennu at:
Claire Morris
Clerc y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Rhaid anfon eich cyfraniadau erbyn dydd Mercher 14 Mai 2014.
Rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i dwristiaeth.