Ymdriniaeth Llywodraeth Cymru o AWEMA yn arwydd o ddiffygion rheoli grantiau - yn ôl un o Bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 20/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymdriniaeth Llywodraeth Cymru o AWEMA yn arwydd o ddiffygion rheoli grantiau - yn ôl un o Bwyllgorau'r Cynulliad

20 Mehefin 2013

Mae ymdriniaeth Llywodraeth Cymru o'r cyllid a roddwyd i AWEMA (Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan), sydd bellach wedi dod i ben, yn tynnu sylw at y prif wendidau o ran y ffordd y mae'r Llywodraeth yn rheoli grantiau, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mewn adolygiad ehangach o reoli grantiau, daw'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i'r casgliad bod diffyg cyfathrebu neu gydgysylltu yn aml iawn rhwng yr adrannau sy'n gyfrifol am grantiau Llywodraeth Cymru, gan arwain at ddiffyg monitro a diogelwch effeithiol.

Roedd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Hydref y llynedd yn tynnu sylw at wendidau yn y modd roedd Llywodraeth Cymru wedi ariannu AWEMA. Cafodd yr elusen dros £7 miliwn dros gyfnod o 11 mlynedd, ond cafodd ei diddymu yn dilyn honiadau o afreoleidd-dra ariannol.

Daw'r Pwyllgor i'r casgliadau bod peth cynnydd wedi'i wneud o ran trawsnewid y system ond mae hefyd yn argymell cyhoeddi adroddiad grantiau blynyddol a bod Llywodraeth Cymru yn datblygu mecanwaith i ddwysáu ei threfniadau monitro i ymateb i bryderon penodol sy'n deillio o faterion sy'n ymwneud ag afreoleidd-dra ariannol neu faterion llywodraethu.

Mae hefyd yn argymell newid y diwylliant o reoli grantiau, er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel un sefydliad yn ei chysylltiadau â chyrff allanol sy'n cael arian cyhoeddus.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, "Mae'r problemau a ddaeth i'r amlwg yng Nghymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) yn arwydd o'r gwendidau a ganfuwyd dro ar ôl tro yn system reoli grantiau Llywodraeth Cymru.

"Efallai fod pobl y tu allan i Lywodraeth Cymru yn meddwl amdani fel un endid: 'Llywodraeth Cymru.' Ond wrth reoli'i grantiau, mae'n ymddangos ar hyn o bryd fod Llywodraeth Cymru'n gweithredu fel casgliad o adrannau gwahanol, nad yw un o reidrwydd yn gwybod beth mae'r lleill yn ei wneud, neu beth maen nhw wedi'i wneud yn y gorffennol.

"Un o'r pethau mwyaf y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yw iddi hi ei hun roi blaenoriaeth i bwysigrwydd bod â gafael iawn ar ei phrosesau rheoli grantiau.

"Rydym yn cydnabod ac yn croesawu peth o'r cynnydd y clywsom amdano yn ystod ein hymchwiliad ond credwn fod angen newid diwylliannol yn y ffordd o reoli grantiau er mwyn sicrhau nad yw problemau fel y rhai a ddaeth i'r amlwg yn AWEMA yn digwydd eto.

"Mewn amser o galedi economaidd, mae'n hanfodol bod Cymru yn cael y gorau o bob punt o arian cyhoeddus a gaiff ei gwario."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 18 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru’n nodi’n gyhoeddus mewn adroddiad grantiau blynyddol sy'n nodi sut y cafodd grantiau unigol eu hadolygu yn ei Hadolygiad Rheoli Grantiau, pa opsiynau ariannu eraill a gafodd eu hystyried, pa sail resymegol a ddefnyddiwyd i benderfynu ar yr opsiynau ariannu mwyaf effeithiol ym mhob achos;

  • Bod Llywodraeth Cymru’n nodi amserlen ar gyfer cyflwyno system TG ganolog i reoli grantiau, ac ar gyfer rhoi system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid ar waith.

  • Bod Llywodraeth Cymru’n datblygu mecanwaith i ddwysáu ei threfniadau monitro, mewn ymateb i bryderon penodol yn ymwneud ag afreoleidd-dra ariannol neu faterion llywodraethu, a hynny’n cynnwys pan roddir ‘mantais yr amheuaeth’ i sefydliad.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i reoli grantiau