Ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i’r gyfraith s’yn ymwneud â mangreoedd di-fwg
06 Rhagfyr 2012
Mae dau o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dechrau ymgynghori ar y cyd i ddarganfod a ddylid caniatau ysmygu mewn mangreoedd lle y mae ffilmio neu gynhyrchiadau drama yn digwydd.
Byddai gwelliant arfaethedig gan Lywodraeth Cymru yn eithrio artistiaid a pherfformwyr o’r rheoliadau di-fwg presennol pe bai hygrededd y perfformiad yn cyfiawnhau cam o’r fath.
Byddai’r esemptiad ond yn gymwys pe nad oedd aelodau o’r cyhoedd a phlant yn bresennol.
Er mwyn ystyried y gwelliannau arfaethedig, mae’r Pwyllgor Menter a Busnes a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi sefydlu is-bwyllgor yr un a byddant yn astudio’r dystiolaeth gyda’i gilydd.
Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: "Ar y naill law byddwn yn ystyried a oes angen masnachol i’r gwelliant hwn ac a fydd yn cyflawni’i nod o gefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru."
Ychwanegodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Ond hyd yn oed os y cadarnheir fod angen masnachol, mae’n rhaid cydbwyso hwn yn erbyn materion fel cynnig amddiffyniad digonol i berfformwyr eraill, staff cynhyrchu ac aelodau’r cyhoedd ynghyd ag unrhyw ystyriaethau polisi iechyd sy’n berthnasol i’r gwelliant hwn."
Gall unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu i’r ymchwiliad naill ai anfon e-bost at swyddfaddeddfwriaeth@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio), Gwasanaeth y Pwyllgorau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 18 Ionawr 2012.