Ymgynghoriad ar y Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru)

Cyhoeddwyd 29/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymgynghoriad ar y Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru)

Mae ymgynghoriad wedi dechrau i gynorthwyo â’r gwaith o ffurfio cyfraith newydd a gaiff ei chynnig gan Darren Millar, yr Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Aelod dros Orllewin Clwyd yn cynnig diwygio’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud â meysydd carafannau gwyliau yng Nghymru, a wnaed ym 1960.

Bydd prif feysydd y Bil yn cynnwys ymdrin â:

  • Rhai carafannau gwyliau yn cael eu defnyddio fel prif gartrefi;

  • Y pwerau a’r adnoddau sydd gan awdurdodau lleol i ymdrin â’r broblem hon;

  • Yr adnoddau sydd ar gael i orfodi amodau gweithredu sydd ynghlwm â thrwyddedau meysydd carafannau gwyliau; a

  • Phriodoldeb gweithredwyr/perchnogion meysydd carafannau gwyliau.

Dywedodd Darren Millar AC: “Mae’r diwydiant carafannau gwyliau yn llwyddiannus iawn yng Nghymru, ac mae miloedd o dwristiaid yn heidio i bob rhan o Gymru bob blwyddyn.

“Ond mae rhai problemau o fewn y diwydiant, ac yn sgîl trafodaethau a gefais ag etholwyr a’r rhai sy’n gyfarwydd iawn â’r diwydiant, ’rwy’n ymwybodol nad yw lleiafrif o weithredwyr safleoedd a’u defnyddwyr yn glynu at y gyfraith i’r llythyren, nac mewn ysbryd.

“Bydd fy Mil yn mynd i’r afael â’r broblem hon a materion eraill rwy’n credu sydd angen ymdrin â nhw yn y diwydiant.

“Byddaf yn ymgynghori’n helaeth iawn i gael safbwyntiau pobl ar y Bil hwn, felly byddaf yn ymweld â safleoedd carafannau a threfi twristiaid ledled Cymru. Hoffwn glywed gan berchnogion a gweithredwyr meysydd carafannau, perchnogion carafannau neu bobl sy’n rhentu carafannau yng Nghymru, ac awdurdodau lleol, i ddarganfod sut y credant y dylai’r Bil hwn weithio.

“Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried Bil tebyg ar hyn o bryd yn ymwneud â safleoedd cartrefi parciau preswyl yng Nghymru ac rwyf fi o’r farn y dylai’r diwydiant meysydd carafannau gwyliau fod â’r un mesurau diogelu a’r un safonau uchel.”

Er mwyn cael dweud eich dweud, llenwch yr arolwg ar-lein yma:

https://www.surveymonkey.com/s/bil-meysydd-carafannau-gwyliau-cymru

Fel arall, cewch anfon eich ymatebion drwy e-bost at SwyddfaDdeddfwriaeth@cymru.gov.uk neu drwy'r post at:

Steve George

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ty Hywel

Bae Caerdydd

CF99 1NA

Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw 13 Medi 2013.