Ymgynghoriad y Cynulliad i edrych ar flaenoriaethau Cymru ar gyfer y Polisi Amaethyddol Cyffredin

Cyhoeddwyd 11/10/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymgynghoriad y Cynulliad i edrych ar flaenoriaethau Cymru ar gyfer y Polisi Amaethyddol Cyffredin

11 Hydref 2011

Bydd blaenoriaethau Cymru ar gyfer Polisi Amaethyddol Cyffredin y Comisiwn Ewropeaidd yn cael eu harchwilio fel rhan o ymgynghoriad newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi sefydlu grwp gorchwyl a gorffen i ymchwilio i effeithiau posibl unrhyw ddiwygiadau i’r polisi, sy’n golygu bod tua £300 miliwn o arian o Ewrop yn cael ei fuddsoddi mewn amaethyddiaeth yng Nghymru bob blwyddyn.

Bydd cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar newidiadau i’r polisi yn cael eu cyhoeddi ar 12 Hydref, a bydd grwp gorchwyl a gorffen yn gofyn am sylwadau ar y cynigion hyn.

Gallai unrhyw newidiadau i’r polisi o ran sut y dyrennir yr arian a’r posibilrwydd y gallai’r gostyngiad termau real i gyllideb y polisi gael effaith sylweddol ar ffermio yng Nghymru.

Sub0Dywedodd Vaughan Gething AC, Cadeirydd y Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin: “Diwygio’r polisi yw un o’r materion pwysicaf sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd.”

“Fel nifer o sectorau eraill o’r economi, mae amaethyddiaeth yn wynebu prisiau sy’n cynyddu ar amser pan fo manwerthwyr a phrynwyr yn ceisio arbed arian.

“Wrth gwrs, mae pwyslais cynyddol ar ddulliau ffermio cynaliadwy ac mae disgwyliad ymysg y cyhoedd y budd dulliau o’r fath yn cael eu defnyddio.

“Yn amlwg, mae sector amaeth Cymru yn gweithio mewn hinsawdd heriol, felly mae’n hanfodol bod llais Cymru’n cael ei glywed yn y trafodaethau.”

Gall unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno tystiolaeth fel rhan o’n hymchwiliad anfon e-bost at ES.comm@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.