Ymgynghoriad ynglŷn ag anghenion dysgu ychwanegol

Cyhoeddwyd 15/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/12/2016

​Mae ymgynghoriad ar y gweill i edrych ar ddeddf newydd a allai newid y trefniadau a'r gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yng nghyfnod cyntaf proses ddeddfu'r Cynulliad.

Os caiff ei phasio, mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y ddeddf:

"yn rhoi'r lle canolog i'r dysgwr yn y broses, ac yn sicrhau y bydd y system yn llawer symlach a llai tebygol o achosi gwrthdaro i'r bobl hynny sy'n rhan ohoni, sy'n gŵyn gyffredin am y system bresennol."

Bydd y Pwyllgor yn sefydlu a fydd y Bil yn cyflawni ei amcanion polisi, a ellir cyflawni'r amcanion hynny heb fod angen deddf newydd, ac a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol i'r Bil.

"Mae'r Bil hwn yn addo ailwampio'r trefniadau presennol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn angenrheidiol gan lawer iawn o bobl yng Nghymru," meddai Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

"Os daw'n ddeddf, rhaid iddi fod yn gadarn ac yn glir ynglŷn â'i hamcanion a sut y bydd yn eu cyflawni.

"Byddwn yn archwilio'r Bil hwn yn ofalus, a byddwn yn gofyn i unrhyw un sydd â phrofiad o anghenion dysgu ychwanegol, neu â diddordeb yn y maes, gyfrannu at ein hymchwiliad."

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu fynd i dudalennau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y we am fwy o wybodaeth, anfon e-bost i SeneddPPIA@cynulliad.cymru, neu ddilyn y Pwyllgor ar Twitter drwy @SeneddPPIA.