Ymunwch ag aelod o staff y Cynulliad ar ran olaf ei daith feicio drwy Ewrop, sydd wedi codi £12,000
06 Awst 2012
Gwahoddir beicwyr i ymuno â John Chick, un o aelodau staff y Cynulliad, ar ran olaf ei daith feicio drwy Ewrop, pan fydd yn mynd o Dongwynlais i Fae Caerdydd, ar hyd Taith Taf, ar 9 Awst.
Cychwynnodd John, sy’n dod o Rydri, ger Caerffili, o’r Senedd ar 20 Ebrill ar daith 10,000 cilomedr y byddai’n ei chyflawni ar ei ben ei hun; bu’n teithio drwy Ffrainc, y Swistir, yr Eidal, Slofenia, Croatia, Serbia, Bwlgaria, Twrci a Gwlad Groeg.
Mae ei gamp gymaint yn fwy trawiadol gan mai ef yw’r unigolyn cyntaf i geisio cyflawni’r daith drwy fynd dros Alpau’r Swistir a Ffrainc.
Cymrodd John, sy’n Bennaeth yr adran Cymorth Busnes i Aelodau’r Cynulliad, seibiant gyrfa i gyflawni’r daith feicio elusennol hon.
Mae wedi codi dros £12,000 ar gyfer Ty Hafan, sy’n gofalu am blant sydd â salwch sy’n bygwth bywyd, a Chanolfan Ganser Felindre, sy’n darparu cymorth a gofal i gleifion sydd â chanser a’u teuluoedd yng Nghymru.
Dywedodd John: “Rwyf wrth fy modd o gyflawni’r her 10,000 cilomedr, gan godi arian ar gyfer dwy elusen wych yng Nghymru: Ty Hafan a Felindre.”
“O ganlyniad i haelioni a chefnogaeth ddiflino fy nghydweithwyr, ffrindiau, cymdogion a noddwyr gwych, rydym wedi codi dros £12,000.
“Rwy’n hynod ddiolchgar i’r holl bobl sydd wedi fy nghefnogi yn y DU ac i’r nifer fawr o bobl garedig a’m helpodd ar hyd y daith.
“Diolch yn enwedig i’m gwraig amyneddgar, sydd bellach wedi fy ngwahardd rhag mynd yn agos at feic eto. Gellir cyfrannu drwy ein gwefan: www.10000kchallenge.org.uk.; bydd pob ceiniog yn mynd yn uniongyrchol i elusen. ”
Gall beicwyr ymuno â John ar ran olaf ei siwrnai ar 9 Awst am 11.00 yn y Lewis Arms yn Nhongwynlais.
Bydd wedyn yn seiclo ar hyd Taith Taf nes iddo gyrraedd y Senedd ym Mae Caerdydd, lle y cychwynnodd ar ei daith arwrol bum mis yn ôl.
Gall pawb sydd â diddordeb gael rhagor o wybodaeth drwy anfon e-bost at:
the10000kchallenge@hotmail.co.uk
Bydd yn cyrraedd y Senedd ar ddiwedd ei daith am 12.00 ar 9 Awst, pan gaiff ei groesawu gan staff y Cynulliad ac Enzo Calzaghe, tad a hyfforddwr cyn-bencampwr bocsio’r byd, Joe.
Dywedodd Rosemary Butler AC: “Mae John wedi cyflawni camp enfawr.
“Mae angen llawer o ymroddiad i allu seiclo ar eich pen eich hun am 10,000 cilomedr, ac mae’n wych gweld rhywun yn ymdrechu gymaint i godi arian ar gyfer achosion da.
“Hoffwn dalu teyrnged i’w ymdrechion ar ran holl Aelodau’r Cynulliad a staff Comisiwn y Cynulliad; rydym yn falch iawn ohono.”
Dywedodd Andrew Morris, Pennaeth Codi Arian yng Nghanolfan Ganser Felindre: “Mae’n gwbl wych fod John wedi cyflawni ei siwrnai 10,000 cilomedr arwrol; mae’n gamp aruthrol. Mae’n amlwg fod ei aberth a’i ymroddiad wedi gwneud argraff ar nifer o bobl, ac maent wedi dangos eu cefnogaeth drwy ei helpu i ragori ar ei darged ar gyfer y cyfanswm o arian i’w godi. Mae pawb yn Felindre yn falch iawn ohono, ac yn ddiolchgar iawn iddo am ei ymdrechion gwych.”