Ymweliad Seneddol â Chanada – mis Chwefror 2020

Cyhoeddwyd 28/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/02/2020

Ar ymweliad Seneddol â Chanada, rhwng 17 a 20 Chwefror, derbyniodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC, y Dirprwy Lywydd Ann Jones AC, a Suzy Davies AC, un o Gomisiynwyr y Cynulliad, groeso gwresog gan ddwy Senedd y wlad yn Ottawa a Quebec. 

Wrth gwrdd â Llefarwyr a swyddogion Senedd Ffederal Canada yn Ottawa a Chynulliad Cenedlaethol Quebec roedd cyfle i ddwyn cymariaethau ac i ddysgu am y gwahaniaethau rhwng systemau seneddol y ddwy wlad.

“Roedd y croeso yng Nghanada yn dwymgalon, a ry’ ni’n ddiolchgar iawn i’r ddwy Senedd a’u swyddogion a fu mor hael â’u hamser i gwrdd â ni a’n tywys o amgylch eu hadeiladau hardd,” meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Mae llawer o bethau sy’n debyg rhwng ein gwledydd a’n systemau seneddol; mae ganddyn nhw hefyd ddwy Senedd a dwy iaith swyddogol. Ond roedd yr ymweliad yn gyfle i drafod yr heriau ry’ ni’n eu rhannu hefyd, ac i gryfhau eu dealltwriaeth nhw o Gymru a’n Senedd ni. Mae’n hanfodol ein bod ni’n edrych allan ac yn cynnal cyfeillgarwch gyda Seneddau eraill o amgylch y byd. Rydym eisoes wedi croesawu nifer o ymweliadau swyddogol o Ganada i’n Senedd dros y blynyddoedd, a byddem yn falch o’r cyfle i groesawu rhagor yn y dyfodol.”

17-18 Chwefror 2020 – Senedd Ffederal Canada, Ottawa

Yn rhan o daith swyddogol o Senedd Canada roedd cyfle am sgwrs gyda Llywydd y Gyngres, y Seneddwr George J Furey a Llywydd y Tŷ Cyffredin Anthony Rota MP. 

Ymhlith y pynciau trafod roedd cymharu sut mae’r Seneddau yn gweithio’n ddwyieithog, sefyllfa ddiweddaraf proses Brexit, ac roedd diddordeb penodol yn y datblygiadau cyfansoddiadol a gyflwynwyd yn y Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru),  sef cyflwyno enw newydd ‘Senedd Cymru’ a gostwng oed pleidleisio i 16 oed. 

Cyn dechrau sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog, Justin Trudeau, yn Nhŷ’r Cyffredin, cafwyd cymeradwyaeth wresog gan yr holl Aelodau wrth i’r Llywydd Anthony Rota MP groesau’r ymwelwyr o Gymru.

Cafwyd hefyd trafodaeth ddiddorol am ddwyieithrwydd, a sefyllfa aml-ieithol Canada fel gwlad sy’n gartref i nifer o ieithoedd brodorol, yng nghwmni Mr. Raymond Théberge, Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada. 

Llywydd Tŷ Cyffredin Canada, Anthony Rota MP

Cwrdd â Llywydd y Gyngres, y Seneddwr George J Furey

Noson gymdeithasol yng nghwmni Cymdeithas Cymry Ottawa. 


20 Chwefror - Cynulliad Cenedlaethol Quebec

Un o themâu’r sgyrsiau yn ystod yr ymweliad â Quebec oedd sut y mae’r Senedd honno yn ystyried moderneiddio’i ffordd o weithio. Roedd yn ddiddorol clywed eu bod nhw’n ystyried mabwysiadu dull electroneg o bleidleisio – dull sydd wedi ei ddefnyddio erioed o fewn Siambr Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Maen nhw hefyd yn ystyried cyflwyno oriau gwaith sy’n fwy cyfeillgar i deuluoedd. 

Bu trafodaeth am bwysigrwydd ymgysylltu â dinasyddion, a phrofiadau hynny yn y ddwy wlad gyda diddordeb penodol yng ngwaith Senedd Ieuenctid Cymru.

Roedd cyfle hefyd i gwrdd a'r Llywydd, Mr Francois Paradis, ac fe dderbynwyd croeso cynnes gan holl aelodau'r Senedd wrth iddo gyflwyno'r ymwelwyr ar ddechrau sesiwn y Cyfarfod Llawn.   

Y ddraig goch yn hedfan uwch Senedd Quebec


Cyfarfod i drafod cydraddoldeb, a’r heriau sy’n parhau, gydag aelodau o grŵp Menywod Seneddol Quebec