Yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r methiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael eu defnyddio fel gwers i bob bwrdd iechyd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 10/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r methiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael eu defnyddio fel gwers i bob bwrdd iechyd yng Nghymru

10 Rhagfyr 2013

Yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i fethiannau llywodraethiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael eu defnyddio i ddysgu gwers i bob bwrdd iechyd yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am i Lywodraeth Cymru gryfhau proses reoli ac arfarnu perfformiad prif weithredwr a chadeirydd pob un o sefydliadau'r GIG a chynnal adolygiad brys er mwyn llunio rhaglen hyfforddiant newydd i aelodau pob bwrdd ei dilyn.

Archwiliodd y Pwyllgor drefniadau llywodraethiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi i adroddiad ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru ganfod methiant yn y berthynas waith rhwng uwch arweinwyr y bwrdd iechyd.

Yr adroddiad hwn yw'r cyntaf o'i fath yn y DU, a chanfu hefyd bod diffyg cyfathrebu rhwng y Bwrdd a rheolwyr a staff rheng flaen wedi golygu nad oedd digon o sylw'n cael ei roi i'r achosion uchel o heintiau C Difficile yn ysbyty Glan Clwyd.

Yn ystod ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor fod gwahanol flaenoriaethau cyfarwyddwyr y bwrdd iechyd wedi arwain at anghydfod a oedd yn ei gwneud yn amhosibl i'r Athro Merfyn Jones, sydd bellach yn gyn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ei ddatrys.

Cafwyd beirniadaeth hefyd o Mary Burrows, y Prif Weithredwr a adawodd, ac a gyfaddefodd mewn tystiolaeth bod problemau ynghylch llywodraethiant wedi peri pryder iddi, ond ei bod wedi methu â chyfleu'r pryderon hynny i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:

"Mae gwaith mawr o flaen y tîm newydd a fydd yn arwain Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'n rhaid iddo adennill hyder y cyhoedd ar frys ynghyd â sefydlu system lywodraethiant newydd, gadarn ac atebol a fydd yn mynd i'r afael â'r bwlch rhwng y Bwrdd a'r ward.

"Mae'r methiannau a ddaeth i'r amlwg yn ystod ein hymchwiliad, ynghyd â'r rhai yn yr adroddiad ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru, yn peri pryder arbennig gan eu bod yn digwydd wrth i'r sector iechyd cyfan yng Nghymru fynd drwy newidiadau anferth o ran cyllid a strwythur.

"Gyda hyn mewn cof, credwn y dylai Llywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau bod ein holl fyrddau iechyd yn dysgu o'r hyn a ddigwyddodd yng ngogledd Cymru fel nad yw'r un methiannau yn codi eto a bod y risgiau i gleifion yn cael eu lleihau."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 20 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys y canlynol:

  • Dylai Llywodraeth Cymru adolygu trefniadau’r broses reoli ac arfarnu perfformiad ar gyfer prif weithredwyr a chadeiryddion sefydliadau’r GIG, a’u cryfhau lle bo angen er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon trwyadl, yn eglur a’u bod yn cael eu gweithredu;

  • Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad brys o’r hyfforddiant sydd ar gael i aelodau byrddau ar draws holl gyrff y GIG yng Nghymru. Dylai canlyniad yr adolygiad hwn lywio’r modd y caiff rhaglen hyfforddi genedlaethol ei datblygu a’i chyflawni ar gyfer aelodau bwrdd, a dylai cyfranogiad fod yn amod aelodaeth o’r bwrdd; a,

  • mae’r Pwyllgor yn croesawu’r camau y mae Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru yn eu cymryd i fonitro cydymffurfiaeth â gweithdrefnau rheoli heintiau mewn ysbytai ar draws y Gogledd. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei phrosesau ar gyfer dilysu ansawdd a diogelwch, a data allweddol arall gan sefydliadau’r GIG. Mae’n hanfodol cofnodi data o’r fath yn gywir i allu rhoi camau ystyrlon ar waith.