Yr angen am gomisiwn cyfryngau annibynnol i ddiogelu lluosogrwydd mewn darlledu gwasanaeth cyhoeddus
Sefydlu comisiwn annibynnol a ariennir yn gyhoeddus yw’r unig ffordd i ddiogelu lluosogrwydd mewn darlledu gwasanaeth choeddus yng Nghymru.
Dyna’r farn a fynegwyd gan Bwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl cyfnod ymgynghori o bum mis.
Dylai’r corff gael ei greu drwy gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a bydd yn gweithredu yn lle panel cynghori Ofcom yng Nghymru a yn darparu cronfa ar gyfer comisiynu rhaglenni newyddion a rhaglenni eraill gan gynhyrchwyr annibynnol yng Nghymru.
Mae’r Aelodau’n argymell bod y gronfa gomisiynu o £25 miliwn yn cael ei ddarparu drwy gymysgedd o drethu darparwyr nad ydynt yn ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, arian y loteri ac arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
I ddechrau, bydd y corff newydd yn gyfrifol am gomisiynu rhaglenni newyddion a rhaglenni eraill i’w darlledu ar ITV Cymru ac, yn y pendraw, am gomisiynu cynnwys pellach ar gyfer gwasanaethau a chyfryngau eraill.
Dywedodd Janice Gregory AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rydym wedi gweld rhaglenni o Gymru’n cael eu torri ar ITV Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
“Ond, mae lluosogrwydd mewn darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i ddyfodol y broses ddemocrataidd ac, yn wir, datganoli yng Nghymru. Mae’r sefyllfa yng Nghymru yn argyfyngus ar gyfer ITV a lluosogrwydd, yn enwedig yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am ymadawiad Elis Owen, rheolwr gyfarwyddwr mawr ei barch ITV Cymru.
Mae ei ymadawiad yn golygu, am y tro cyntaf erioed, nid yw Cymru bellach yn cael ei ystyried i fod yn endid ar wahân o ran darlledu sianel 3 a’i fod yn rhan o ranbarth mawr sy’n cynnwys Granada a Central.
Mae Pwyllgor yn credu mai’r unig ffordd o ddiogelu’r traddodiad o luosogrwydd yn darlledu o Gymru yw drwy sefydlu corff annibynnol â chyfrifoldeb dros gomisiynu rhaglenni gan gynhyrchwyr annibynnol i’w darlledu ar y ITV.”
Prif argymhellion eraill yr adroddiad yw bod:-
Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda darlledwyr a chynhyrchwyr annibynnol i greu canolbwynt cyfryngau creadigol yng Nghaerdydd
Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog Llywodraeth y DU i adolygu’r Ddeddf Darlledu i greu un drwydded fasnachol ar gyfer Cymru gyfan
Gweinidogion Cymru, ar y cyd ag Ofcom, yn ailystyried y posibilrwydd o ddatganoli’r hawl i ddyrannu trwyddedau radio cymunedol yng Nghymru.