Ysgrifennydd Gwladol Cymru - Datganiad gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 18/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/01/2018

Mae Simon Thomas AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cyhoeddi'r datganiad a ganlyn:

Dywedodd Mr Thomas:

"Mae'r Pwyllgor hwn yn rhwystredig ac yn siomedig gydag amharodrwydd parhaus Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, i ymddangos ger ein bron ar faterion sy'n hanfodol i lywodraethu a pherfformiad Cymru.

"Mae atebolrwydd a gwaith craffu trylwyr yn rhannau hanfodol o bortffolio unrhyw weinidog, ni waeth beth yw'r sefydliad y mae'n rhan ohono.

"Mae gwaith y Pwyllgor hwn yn ystyried materion a fydd yn effeithio ar bob person yng Nghymru, gan gynnwys datganoli pwerau codi trethi yn hwyrach eleni.  Mae'n ofynnol yn statudol i'r Ysgrifennydd Gwladol adrodd ar weithredu Deddf Cymru 2014, ond ni fydd yn mynychu c​yfarfod y Pwyllgor i drafod yr adroddiadau blynyddol hyn.

"Mae'n hanfodol bod prosesau o'r fath yn cael eu harchwilio'n fanwl a bod pawb dan sylw yn agored i waith craffu o'r fath."

Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cynnig nifer o ddyddiadau i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymddangos gerbron y Pwyllgor ers mis Mai 2016, gan gynnwys yr opsiwn o ymddangos drwy fideo gynhadledd neu Skype er hwylustod.