Ysgrifennydd Gwladol Cymru i annerch Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 23/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ysgrifennydd Gwladol Cymru i annerch Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Mai 2012

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyflwyno rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn ffurfiol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Senedd ddydd Mercher 23 Mai.

Bydd y Gwir Anrhydeddus Cheryl Gillan AS yn annerch Aelodau’r Cynulliad yn ystod y Cyfarfod Llawn. Bydd dadl ar raglen ddeddfwriaethol y DU yn cael ei chynnal wedyn.

O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’n ofynnol fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn mynd i’r Cyfarfod Llawn fel rhan o ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ei rhaglen ddeddfwriaethol, a gaiff ei chyflwyno yn Araith y Frenhines, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl dechrau pob sesiwn seneddol.