Y Pwyllgor Cyllid

Mae gan y Pwyllgor bedwar Aelod sy'n dod o'r gwahanol bleidiau sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd, ac mae’n cael ei gadeirio gan Peredur Owen Griffiths AS.

Mae rhagor o wybodaeth isod am y Pwyllgor, ei aelodau, a’r rhestr o feysydd y mae’n eu trafod.

Craffu ar y Gyllideb

Yn unol â Rheol Sefydlog 19, rhaid i’r Pwyllgor Cyllid ystyried a chyflwyno adroddiad ar unrhyw ddogfen a osodir gerbron y Senedd gan Weinidogion Cymru neu Gomisiwn y Senedd sy’n cynnwys cynigion o ran defnyddio adnoddau.

Gall y Pwyllgor hefyd ystyried ac adrodd ar unrhyw fater arall sy’n ymwneud â gwariant o Gronfa Gyfunol Cymru, neu wariant sy’n effeithio arni.

Fel rhan o’i gyfrifoldebau, mae’r Pwyllgor yn craffu ar y canlynol fel rhan o’r cylch cyllideb blynyddol:

 

darnau arian £1

Gwaith eraill

Cylch Gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021. Yn unol â Rheol Sefydlog 19, mae cyfrifoldebau'r Pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Senedd ynghylch defnyddio adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys craffu ar gyllidebau’r cyrff a ariennir yn uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru.
O dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r Pwyllgor yn cynnwys goruchwylio llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
O dan Reol Sefydlog 18A, mae cyfrifoldebau’r Pwyllgor yn cynnwys goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Gall y Pwyllgor hefyd, fel rhan o'i gyfrifoldebau, ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru. Gall y Pwyllgor graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Senedd.

Aelodau'r Pwyllgor