05/07/2016 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 30/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/07/2016

​Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Mehefin 2016

 i'w hateb ar 5 Gorffennaf 2016

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
 
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro? OAQ(5)0088(FM)
 
2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer Bargen Ddinesig Caerdydd? OAQ(5)0097(FM)
 
3. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr cyfleusterau meddygfeydd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0089(FM)W
 
4. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0092(FM)
 
5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiadau tai cymdeithasol arfaethedig yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ(5)0086(FM)

6. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â chwmnïau angor, fel Airbus, yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE? OAQ(5)0094(FM)
 
7. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoliadau Ewropeaidd ôl-Brexit yn ymwneud â llygredd aer? OAQ(5)0100(FM)
 
8. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r risgiau i economi Cymru os nad yw Llywodraeth y DU yn gwarantu pob ceiniog o gyllid a gaiff ei ddarparu i Gymru ar hyn o bryd gan yr UE? OAQ(5)0101(FM)
 
9. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant amaethyddol yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0090(FM)
 
10. David Melding (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd yn eu lle i wella'r broses ymgynghori sy'n cefnogi datblygu a gweithredu rhaglen bolisi Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0096(FM)
 
11. David J Rowlands (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol ynghylch adeiladu'r Ganolfan Ofal Gritigol Arbenigol yn Llanfrechfa, Cwmbran, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2004?  OAQ(5)0099(FM)
 
12. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi economi de-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0091(FM)
 
13. Dawn Bowden (Merthyr Tydfil a Rhymni) A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at gyrraedd targedau twf yn y sector twristiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0098(FM)
 
14. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu Deddfau a gafodd eu pasio yn y Pedwerydd Cynulliad? OAQ(5)0093(FM)
 
15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflog cyfartal? OAQ(5)0095(FM)