Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 28 Tachwedd 2016 i'w hateb ar 5 Rhagfyr 2016
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o anghenion staffio ac adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i ymdrin â chanlyniadau deddfwriaethol y ffaith bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? (WAQ71591)
Derbyniwyd ateb ar 8 Rhagfyr 2016
Prif Weinidog Cymru (Carwyn Jones): Staffing matters within the Welsh Government are the responsibility of the Permanent Secretary. I have asked him to write to you separately with the information you have requested.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Ymhellach i WAQ71527, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw'n bwriadu llunio cod ymarfer drafft ar gyfer arddangosfeydd symudol o anifeiliaid ac, os felly, a wnaiff gadarnhau i bwy y bydd yn gwneud cais i lunio'r cod? (WAQ71589)
Derbyniwyd ateb ar 8 Rhagfyr 2016
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Lesley Griffiths): I will be issuing a Written Statement to Assembly Members before Christmas recess.
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw'r Gweinidog yn rhagweld unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r ffordd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydsynio i brosiectau ynni dŵr yn dilyn dyfarniad Llys Iawnderau Ewrop yn Achos C-461/13? (WAQ71590)
Ateb i ddilyn.