09/08/2017 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad ac Atebion

Cyhoeddwyd 02/08/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/08/2017

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 2 Awst 2017 i'w hateb ar 9 Awst 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu atal swyddi rhag cael eu colli yn Essentra yng Nghasnewydd? (WAQ74017)

Derbyniwyd ateb ar 14 Awst 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (Ken Skates): Essentra have entered a formal consultation period of at least 45 days and have reassured the Welsh Government that they will continue to take their responsibilities as a local employer extremely seriously and are fully committed to supporting their employees.
Officials are working closely with the company, Newport City Council and other key support organisations as the consultation progresses.
 
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa drafodaethau y mae wedi'u cael am yr adroddiad sy'n cadarnhau na all cyfnewidfa bws arfaethedig newydd Caerdydd fynd yn ei flaen yn ei ffurf bresennol, ac a wnaiff nodi unrhyw gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa? (WAQ74019)

Derbyniwyd ateb ar 9 Awst 2017

Ken Skates: I receive regular updates from my officials regarding the development of the bus and rail stations. While the development of the bus station at Cardiff is led by the local authority, as one of our major gateways it is crucial we develop a truly integrated public transport hub in the Capital that serves the rest of Wales. An integrated facility in the City Centre is a fundamental element of the Metro vision for the region and I have requested my officials to investigate how Welsh Government can have more involvement and oversight of the developments as they move forward given their strategic importance to Wales.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at WAQ73915 a WAQ73916, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau faint o rent y mae Cardiff Aviation wedi'i dalu i Lywodraeth Cymru ers sefydlu'r ardal fenter yn Sain Tathan? (WAQ74020)

Derbyniwyd ateb ar 9 Awst 2017 

Ken Skates: I refer you to my answer to WAQ73374, the Welsh Government and Cardiff Aviation reached a settlement via mediation over payment of outstanding building rent. Under the terms of the legal agreement reached at mediation the details are “commercial in confidence”.     

Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): Ymhellach i WAQ73930, a wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu'r gyfradd gyfredol o fethiant busnes yng Nghasnewydd, o'i chymharu â'r DU a Chymru gyfan, yn ogystal â nifer absoliwt y genedigaethau busnes yng Nghasnewydd? (WAQ74021)

Derbyniwyd ateb ar 9 Awst 2017 

Ken Skates: The Welsh Government's business demography statistical release shows that in 2015, the latest year for which figures are available, the rate of business failure in Newport was 10.0%, the UK rate was 9.4% and the rate for Wales was 9.1%. The number of business births in Newport for that year was 630.

Russell George (Sir Drefaldwyn): I ba raddau y cymerodd Llywodraeth Cymru ran yn rhaglen cyflymu entrepreneuriaeth ranbarthol (REAP) y Massachusetts Institute of Technology rhwng 2015 a 2017, ac i ba raddau yr ariannwyd y cyfranogiad hwnnw gan Lywodraeth Cymru? (WAQ74025)

Derbyniwyd ateb ar 14 Awst 2017

Ken Skates: The Welsh Government approved support and expenditure of £165,000 to develop an Entrepreneurship Ecosystem in association with Massachusetts Institute of Technology (MIT) Regional Entrepreneurship Acceleration Programme (REAP) in January 2015 for a two year period. 
 
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi cofnodion y cyfarfod rhyngddo ef a chadeiryddion y byrddau ardaloedd menter a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2017? (WAQ74026)
 
Derbyniwyd ateb ar 9 Awst 2017

Ken Skates: The meeting was convened with the Enterprise Zone Chairs to inform my review of Enterprise Zone Governance. I will make a statement once the review has been concluded.

Russell George (Sir Drefaldwyn): A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cyhoeddi adroddiad cynnydd cynhwysfawr ar ardaloedd menter Cymru ar gyfer y blynyddoedd 2015 a 2016 (yn dilyn yr adroddiad cynnydd cyntaf ac ail ar gyfer 2013 a 2014) ac yn ogystal a yw'n bwriadu cyhoeddi diweddariad yn cwmpasu'r holl flynyddoedd ers creu'r ardaloedd? (WAQ74030)

Derbyniwyd ateb ar 9 Awst 2017

Ken Skates: I recently issued a written statement updating Members on Enterprise Zones prior to the summer recess: http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2017/entzones/?lang=en

The progress updates produced in 2013 and 2014 were replaced in 2015 with individual Enterprise Zone Board Strategic Plans (at http://gov.wales/topics/businessandeconomy/growing-the-economy/enterprisezones/?lang=en) and these have recently been updated to include progress to March 2017. The Enterprise Zone Boards will be updating their Strategic Plans further in 2017-18 and these plans will also be published in due course.  

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynghylch gwasanaethau bancio yn dilyn dadl Plaid Cymru ar 15 Chwefror 2017, ac ymchwil gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru i'r maes? (WAQ74032)W

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynghylch cyhoeddiad i gau cangen banc Santander yn Ninbych y Pysgod ym mis Medi? (WAQ74034)W

Derbyniwyd ateb ar 15 Awst 2017

Ken Skates: Ken Skates: Er nad yw rheoliadau bancio wedi eu datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn bryderus iawn ynghylch yr effaith negyddol a gaiff cau banciau ar fusnesau a phobl leol. Mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig yn enwedig, gall dod â gwasanaethau lleol i ben gael effaith sylweddol ac andwyol ar unigolion, busnesau, ac yn wir, gymunedau cyfan. Mae’n anffodus iawn bod cangen o fanc Santander yn Ninbych y Pysgod yn cau.
Mae Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016 yn pennu sut yr ydym yn bwriadu gweithio gyda sefydliadau sy’n bartneriaid - yng Nghymru ac ar lefel Prydain – i wella’r mynediad at gredyd a gwasanaethau ariannol fforddiadwy. Mae hynny’n cynnwys mynediad at wybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion, yn ogystal â’r angen i wella’r galluoedd ariannol yng Nghymru. Cafodd y Cynllun Cyflawni Cynhwysiant Ariannol ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2016, sy’n pennu’r camau a’r mesurau sydd eu hangen i gynyddu cynhwysiant ariannol ledled Cymru. Mae’r Cynllun Cyflawni yn tynnu sylw at yr angen i gydweithio’n agos â sefydliadau sy’n bartneriaid, ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, gan eu bod mewn sefyllfa dda i hyrwyddo cynhwysiant ariannol a gallu ariannol.
Roedd y Prif Weinidog a minnau yn croesawu’r adolygiad gan yr Athro Griggs, oedd yn gwneud argymhellion i wella’r ffordd y mae banciau’n cysylltu gyda chymunedau, gan gynnwys cwsmeriaid sy’n fusnesau bychain. Rydym yn codi’r mater o gau banciau yn rheolaidd, ac adolygiad Griggs pan fyddwn yn cyfarfod â’r banciau. Rydym hefyd wedi gofyn i’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ddatblygu prosiect i gasglu a dadansoddi’r dystiolaeth sydd ar gael ar fancio cyhoeddus. Mae’r adroddiad gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus wedi dod i law ac yr wyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ystyried eich ymateb. Bydd y camau nesaf yn dibynnu ar y gwersi a ddysgwyd o’r prosiect.

 


 
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A ofynodd Llywodraeth Cymru i Drysorlys EM roi asesiad, neu a roddodd ei asesiad ei hunan, yn ffurfiol neu'n anffurfiol, o'r risg dosbarthiad a gynrychiolir gan y cynnig Cylchffordd Cymru? (WAQ74041)

Derbyniwyd ateb ar 14 Awst 2017

Ken Skates: HMT officials provided informal advice to the Welsh Government on the likely factors that would be considered by the Office for National Statistics (ONS) for the classification of financial guarantees for the HoVDC on Circuit of Wales. 
 
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A ganslwyd cyfarfod anffurfiol o weision sifil yn adran Ysgrifennydd y Cabinet a oedd yn rhan o brosiect Cylchffordd Cymru a drefnwyd i ddiolch iddynt am eu gwaith yn ystod yr wythnos a ddechreuodd ar 26 Mehefin? (WAQ74042)

Derbyniwyd ateb ar 14 Awst 2017

Ken Skates: Neither my officials nor I have any knowledge of the gathering you have asked about.
 
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaeth Llywodraeth Cymru drafod y mater o ddosbarthu mantolenni gyda chynrychiolwyr y Heads of the Valleys Development Company Cyf mewn unrhyw gyfarfod 30 Mehefin 2017? (WAQ74043)

Derbyniwyd ateb ar 14 Awst 2017

Ken Skates: The issue of balance sheet classification has been discussed between Welsh Government officials and representatives of Heads of the Valleys Development Company from as early as spring 2016.
 
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Ymhellach i WAQ73775, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon na chafodd Côd Ymddygiad y Cynghorwyr Arbennig ei dorri mewn perthynas â'r mater hwn? (WAQ74044)

Derbyniwyd ateb ar 14 Awst 2017

Ken Skates: I am satisfied that the Special Adviser Code of Conduct was not breached in relation to this matter.
 
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau nad oes unrhyw wahaniaeth gwirioneddol yn lefel y risg a aseswyd rhwng y "risg sylweddol iawn" mewn perthynas â dosbarthu mantolenni y cyfeiriodd yn ei ddatganiad ar 27 Mehefin, a'r "risg sylweddol" y cyfeiriwyd ato mewn atebion gan y Llywodraeth ar ôl hynny? (WAQ74045)

Derbyniwyd ateb ar 14 Awst 2017

Ken Skates: I can confirm that there is no substantive difference.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Yn dilyn y datganiad ar 18 Gorffennaf ynghylch trefniadau cynyddu ac ymyrraeth GIG Cymru, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pan fydd yr adroddiad adolygu ar gyfer ABMU, ac ymateb y bwrdd iechyd iddo, ar gael i'r cyhoedd? (WAQ74018)

Derbyniwyd ateb ar 7 Awst 2017 

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon(Vaughan Gething):  As indicated in my Written Statement of 18 July I am expecting Boards, including Abertawe Bro Morgannwg University Health Board, to consider their respective Deloitte report and agree their response through their public Board meetings.  I have asked heath boards to publish the reports’ findings and their proposed action plan once that process is completed. 


Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran penodi swydd Prif Gynghorydd Therapi i Lywodraeth Cymru? (WAQ74022)

Derbyniwyd ateb ar 3 Awst 2017
 
Vaughan Gething: Staffing is a matter for the Permanent Secretary and I have asked her to respond to this question.
 
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ffisiotherapi cymunedol a therapi galwedigaethol sydd ar gael i blant â pharlys yr ymennydd ym mhob un o fyrddau iechyd lleol Cymru? (WAQ74029)

Derbyniwyd ateb ar 3 Awst 2017

Vaughan Gething:  It is the responsibility of health boards to ensure they provide adequate access to physiotherapy and occupational therapy services for children in Wales, including those with cerebral palsy.  

Cerebral palsy in children is a complex condition that takes many different forms.  Due to the range of physiotherapy and occupational therapy requirements for children with cerebral palsy, it would be difficult to provide an exhaustive list that covers all specific services in Wales. In part, this is due to the complex care needs of children with the condition and multi sector and multi professional involvement.

However, each child with cerebral palsy would be assessed on an individual basis, with many children being seen and treated in their own home, nursery or school.

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oriau agor yr uned gofal bediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg, Sir Benfro? (WAQ74031)W

Derbyniwyd ateb ar 9 Awst 2017

Vaughan Gething: Ym mis Rhagfyr 2016, cafodd oriau agor uned gofal ambiwladol pediatrig (PACU) yn Ysbyty Llwynhelyg eu lleihau dros dro gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o ddeuddeg awr y dydd i wyth awr y dydd. Ar hyn o bryd, mae'r uned ar agor o 10.00am i 6.00pm, saith diwrnod yr wythnos.
Gwnaed y penderfyniad hwn gan y bwrdd iechyd am resymau diogelwch clinigol, gan ystyried yr heriau o ran recriwtio pediatregyddion ymgynghorol, ynghyd â phroblemau penodol yn Sir Benfro wrth i un meddyg ymgynghorol ymddeol yr un pryd ag yr oedd un arall yn mynd ar gyfnod mamolaeth. Roedd y newidiadau dros dro yn golygu y gallai teuluoedd barhau i gael gofal iechyd i'w plant yn yr un modd. Caiff plant eu hatgyfeirio a'u trosglwyddo yn ôl yr angen i'r gwasanaeth a'r ysbyty er mwyn diwallu eu hanghenion orau.
Mae'r bwrdd iechyd wedi parhau i weithio'n galed i ddenu a recriwtio staff cymwys i ymuno â'i dîm pediatrig meddygol, gan gynnwys lansio strategaeth benodol i recriwtio meddygon pediatrig ym mis Chwefror 2017. Yn anffodus, ni lwyddwyd i recriwtio nifer digonol o ymgynghorwyr meddygol drwy hyn i alluogi'r gwasanaeth PACU ail ymestyn ei oriau agor i 12 awr.
Yng nghyfarfod y bwrdd iechyd ar 27 Gorffennaf, cytunwyd i barhau â'r gwasanaeth wyth awr wrth barhau i fynd ati i recriwtio. Rwyf wedi fy sicrhau bod y trefniadau presennol yn cael eu monitro'n agos er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn darparu gwasanaeth diogel i blant a theuluoedd Sir Benfro.
Rwy'n deall bod y bwrdd iechyd wedi sefydlu grŵp amlddisgyblaethol sy'n cynnwys meddygon ysbyty a meddygon gofal sylfaenol, nyrsys a staff eraill sy'n cynrychioli'r gwasanaethau hynny sy'n darparu gofal i blant. Mae'r grŵp hwn wedi bod yn asesu ac yn adolygu modelau staffio a gwasanaethau amgen i'r dyfodol er mwyn cefnogi gwasanaeth gofal ambiwladol pediatrig diogel a chynaliadwy yn yr ysbyty, os nad yw'r sefyllfa recriwtio yn gwella.
Mae'r grŵp, sydd hefyd yn cael ei gefnogi gan gynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Chyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda, wedi gwneud cynnydd sylweddol ac wedi nodi ystod o sefyllfaoedd posibl wrth oruchwylio'r ymdrechion recriwtio parhaus. I gefnogi'r gwaith hwn ymhellach, mae'r bwrdd iechyd wedi comisiynu hwylusiad clinigol allanol, annibynnol i weithio gyda staff a'u timau clinigol perthnasol i adolygu'r sefyllfaoedd hyn ymhellach.
Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn, mae’r bwrdd iechyd yn bwriadu dechrau ar gyfnod o ymgysylltu yn ystod tymor yr hydref os nad yw’r sefyllfa recriwtio wedi gwella’n ddigonol i allu ail-sefydlu gwasanaeth PACU 12 awr, 7 diwrnod yr wythnos yn yr ysbyty.

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynglŷn â staffio yn Ysbyty Bronglais yn dilyn adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? (WAQ74033)W

Derbyniwyd ateb ar 9 Awst 2017

Vaughan Gething: Rwy’n cyfarfod cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rheolaidd i drafod amrywiol faterion yn ymwneud â’r gwasanaeth. Mae fy swyddogion hefyd yn cydweithio’n agos gyda’r bwrdd iechyd i ddarparu cymorth wrth iddynt ddatblygu a gweithredu eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig i ganolbwyntio ar faterion sy’n cael blaenoriaeth, gan gynnwys recriwtio a chadw staff.
Fel gweddill y DU, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn wynebu heriau wrth recriwtio gweithlu parhaol. Er mwyn rhoi sylw i hyn, mae’r bwrdd iechyd yn gweithio gyda’u partneriaid cenedlaethol a rhanbarthol, yn ogystal â datblygu eu hymgyrchoedd lleol eu hunain, i fanteisio i’r eithaf ar bob cyfle recriwtio posib ar-lein ac all-lein ledled Cymru a thu hwnt.
Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn cefnogi ein hymgyrch recriwtio genedlaethol ‘Gwlad, Gwlad: Hyfforddi, Gweithio, Byw’ ac wedi cysoni eu gweithgarwch recriwtio eu hunain gyda’r ymgyrch genedlaethol.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A fydd ystyriaeth yn cael ei ri i ymgorffori'r Cynllun Bridiwr Sicr yn y drefn drwyddedu cŵn? (WAQ74027)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae adran Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i annog cydweithio rhwng awdurdodau lleol a chynlluniau achrededig UKAS er mwyn gwella'r broses o orfodi rheoliadau bridio cŵn? (WAQ74028)

Derbyniwyd ateb ar 9 Awst 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Lesley Griffiths): The Welsh Government is working with Local Authorities, as part of the Partnership Delivery Project, to undertake a number of intelligence led surveys on animal health, animal welfare and animal establishment licensing legislation. One project is a data capture exercise on licensed dog breeding establishments. Officials are currently analysing the findings of the data captured by Local Authorities which will form the basis of a review of the application and enforcement of standards currently applied to dog breeders in Wales.

Sian Gwenllian (Arfon): A oes gan Ysgrifennydd y Cabinet fwriad i gryfhau rhan B o'r rheoliadau adeiladu ar ddiogelwch tân? (WAQ74036)W
Sian Gwenllian (Arfon): A oes gan Ysgrifennydd y Cabinet fwriad i gryfhau rhan L o'r rheoliadau adeiladu ar ddiogelwch tân? (WAQ74037)W
Sian Gwenllian (Arfon): A oes gan Ysgrifennydd y Cabinet fwriad i gryfhau rhan E o'r rheoliadau adeiladu ar ddiogelwch tân? (WAQ74038)W

Derbyniwyd ateb ar 9 Awst 2017

Lesley Griffiths: Ymdrinnir â’r rheoliadau adeiladu ar ddiogelwch tân o dan Rhan B o'r Rheoliadau Adeiladu. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol i gynnal adolygiad annibynnol o reoliadau adeiladu a diogelwch tân yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell. Rwy'n croesawu'r bwriad i drafod â'r Gweinyddiaethau Datganoledig, gan ei bod yn debygol y bydd y materion sy'n codi yn sgil Grenfell yr un mor berthnasol i ni yng Nghymru o ystyried bod gofynion Rhan B - Diogelwch Tân a'r canllawiau cysylltiedig yn deillio o'r polisi blaenorol ar gyfer Cymru a Lloegr. Rydw i wedi gofyn am gael trafodaeth gynnar gyda Chadeirydd yr Adolygiad.  Byddaf yn ystyried a oes angen gwneud newidiadau i'r rheoliadau busnes yng Nghymru ar ôl gweld canfyddiadau'r arolygiadau, yr ymchwiliad cyhoeddus a'r adolygiad annibynnol.

Sian Gwenllian (Arfon): Pryd y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cyhoeddi'r fersiwn newydd o TAN 20: Cynllunio a'r Iaith Gymraeg? (WAQ74039)W

Derbyniwyd ateb ar 15 August 2017

Lesley Griffiths: Yn anffodus, bu oedi cyn cyhoeddi TAN 20 wrth inni edrych ymhellach ar y berthynas rhwng TAN 20 a Fframwaith Asesu Risgiau a Manteision newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Iaith Gymraeg, sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i ystyried y cysylltiadau rhwng y ddwy ddogfen yn ystod yr haf. Rwy’n awyddus i gyhoeddi TAN 20 ddiwedd Medi.

 

Sian Gwenllian (Arfon): Fel rhan o ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu Polisi Cynllunio Cymru i'w gysoni ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a wnaiff ddiweddaru'r polisi ar amddiffyn y cyhoedd rhag llygredd aer? (WAQ74040)W

Derbyniwyd ateb ar 9 Awst 2017

Lesley Griffiths: Rydw i wedi ymrwymo i adolygu Polisi Cynllunio Cymru i'w gysoni â'r ffyrdd o weithio sy'n cael eu nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd y polisi presennol mewn perthynas ag ansawdd aer yn cael ei ddiweddaru fel rhan o'r adolygiad hwn.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod pob awdurdod lleol yn talu y lwfansau gofynnol cenedlaethol a argymhellir ar gyfer gofalwyr maeth i ofalwyr sy'n berthnasau, fel y nodir yn y llythyr dyddiedig 12 Ionawr 2017 gan yr adran Galluogi Pobl? (WAQ74024)

Derbyniwyd ateb ar 14 Awst 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (Carl Sargeant):  In 2016-17 we provided funding for the Fostering Network to undertake a study of the fees and allowances paid to foster carers by local authorities and independent fostering agencies across Wales.  Kinship foster carers were not included in that initial study, but will be included in more detailed follow-up work in 2017-18, funded from the £400k we have allocated for implementation of the new Framework.

When that work is finished we should have an even greater understanding the factors that influence local authority decisions about the support provided to kinship and other foster carers. Our aim is to achieve greater harmonisation in the rates paid to all foster carers in Wales (including kinship foster carers).

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfarfod gyda Gweinidog Brexit yr Alban, Michael Russell, i drafod Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysu am Ymadael) a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU? (WAQ74035)W

Derbyniwyd ateb ar 9 Awst 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (Mark Drakeford): Bûm i a'r Cwnsler Cyffredinol yn cwrdd â Gweinidog yr Alban ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a'r Arglwydd Adfocad ar 27 Gorffennaf. Trafodwyd ein pryderon cyffredin ynghylch Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) gan Lywodraeth y DU a'i effaith negyddol ar y setliadau datganoledig fel y maent wedi'u drafftio ar hyn o bryd. Trafodwyd dulliau gweithredu posibl ar y cyd a sut y gallem weithio mewn modd adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu fframweithiau y mae pob gwlad yn y DU yn cytuno arnynt, lle y mae Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig yn cydsynio bod eu hangen. Roeddem yn hollol gytûn y byddai unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i orfodi fframweithiau neu ddefnyddio Bil Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd fel esgus i roi cyfyngiadau newydd ar sefydliadau datganoledig yn cael ei wrthod yn gadarn.

 
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

Lynne Neagle (Torfaen): Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd y Cabinet wneud o sut y mae'r canllawiau ar cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd anghenion wedi gweithio ar lawr gwlad ers eu cyflwyno yn gynharach eleni? (WAQ74023)

Derbyniwyd ateb ar 15 Awst 2017

Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes (Alun Davies): I will write to you as soon as possible and a copy of my letter will be published on the internet.