Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 1 Tachwedd 2016
Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Hydref 2016
NDM6127 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, "Tuag at Gymru Decach"
Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, "Tuag at Gymru Decach"
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 27 Hydref 2016
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM6127
- Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Undebau Llafur a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd yn y gwaith yn well.
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r clinig hunaniaeth rhywedd i Gymru sydd i gael ei sefydlu yn sgil trafodaethau Plaid Cymru mewn perthynas â chyllideb 2017-18.
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r saith brif her y mae angen mynd i'r afael â hwy yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf, fel y nodwyd gan y Comisiwn, ac y bydd angen ymdrechion sylweddol ar ran sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, ac ar ran unigolion i leihau'r heriau hyn.
4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cydnabyddiaeth y Comisiwn bod angen ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a chymunedol a'i rymuso.