Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 3 Hydref 2017
Cynnigion a gyflwynwyd ar 26 Medi 2017
NDM6516 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg a gyhoeddwyd fel testun ymgynghoriad ar 9 Awst 2017.
'Y Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg'
NDM6517 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
'Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)'
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 28 Medi 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion:
NDM6516
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi amrywiaeth y safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad cryno o'r ymatebion i'r alwad am dystiolaeth, 'Paratoi ar gyfer Bil y Gymraeg', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017.
Paratoi ar gyfer Bil y Gymraeg - Galwad am dystiolaeth: crynodeb o'r ymatebion
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi cylch gwaith cul Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd unrhyw wanio o ran hawliau cyfreithiol presennol siaradwyr Cymraeg.
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newyd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaith rheoleiddio a gwaith hyrwyddo mewn perthynas â'r Gymraeg yn cael eu cwblhau gan ddau gorff gwahanol.
5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu awydd Llywodraeth Cymru i leihau'r lefel o fiwrocratiaeth sydd yn bodoli yn system safonau'r iaith Gymraeg.
6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda'r safonau iaith ar gyfer iechyd a chymdeithasau tai ar fyrder, ac i gyhoeddi amserlen ar gyfer cyhoeddi safonau i'r sectorau ynni, cwmnïau dŵr, telathrebu, cwmnïau trenau a bysus.
7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y safonau iaith i weddill y sector breifat.
8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu yn glir ei rhesymeg dros gynnig cael gwared ar rôl Comisiynydd y Gymraeg.