Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 14 Mehefin 2017
Cynnig a gyflwynwyd ar 4 Mai 2017
NNDM6304
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Paul Davies AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 4 Mai 2017 o dan Reol Sefydlog 26.91A.
Cynnig a gyflwynwyd ar 11 Mai 2017
NNDM6311
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn llongyfarch staff GIG Cymru am drin a gwella'r nifer uchaf erioed o gleifion â Hepatitis C.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad dileu Hepatitis C Sefydliad Iechyd y Byd o 2030.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canllawiau gweithredu newydd er mwyn cefnogi'r GIG i weithio tuag at ddileu Hepatitis C yng Nghymru.
Cynigion a gyflwynwyd ar 7 Mehefin 2017
Dadl Fer
NDM6328 Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cymru yn y Byd – meithrin cysylltiadau rhyngwladol Cymru.
NDM6329 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu,
'Y Darlun Mawr - Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2017.
2. Yn cytuno y dylai S4C, wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor i'r perwyl hwn, osod adroddiadau ariannol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon gerbron y Cynulliad.