Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 20 Medi 2017
Cynnig a gyflwynwyd ar 13 Medi 2017
NDM6501 Huw Irranca–Davies (Ogwr)
Y ddarpariaeth o ofal sylfaenol yn ardal Llanharan.
NDM6502 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i recriwtio meddygol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mehefin 2017.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2017.
NDM6505 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwasanaethau sy'n addas i'r dyfodol', sy'n ceisio diddymu cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru.
2. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae cynghorau iechyd cymuned wedi'i chwarae o ran sicrhau atebolrwydd gwasanaethau cyhoeddus annibynnol a darparu llais cryf i gleifion yng Nghymru.
3. Yn credu y bydd cynigion y Papur Gwyn yn gwanhau lleisiau cleifion a chymunedau a lleihau lefel y gwaith craffu ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymestyn y cyfnod ymgynghori ar y Papur Gwyn, ar ôl methu ag ymgysylltu'n briodol â chynghorau iechyd cymuned, cleifion a'r cyhoedd yng Nghymru; a
b) gweithio mewn ffordd fwy adeiladol gyda'r cynghorau iechyd cymuned ar gynigion yn y dyfodol ar gyfer corff newydd i roi llais i'r bobl.
Dogfen Ymgynghori Papur Gwyn Llywodraeth Cymru -'Gwasanaethau sy'n addas i'r dyfodol'
NDM6506 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu adeiladu uwch garchar ym Mhort Talbot.
2. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:
a) beidio â gwerthu neu ryddhau tir Llywodraeth Cymru at ddibenion adeiladu'r uwch garchar arfaethedig;
b) datblygu'r economi leol drwy gefnogi busnesau yn y parc diwydiannol; ac
c) gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU yn cefnogi'r dewisiadau amgen i garchardai mawr.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 14 Medi 2016
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion:
NDM6505
Dileu popeth ar ôl 'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol ac ychwanegu 'sy'n amlinellu cyfres o gynigion i gryfhau ansawdd a llywodraethiant mewn gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru'.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 15 Medi 2016
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion:
NDM6505
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon Llywodraeth yr Alban yn ystyried nad oedd cyngor iechyd cymuned cenedlaethol sengl yn yr Alban yn ddigon annibynnol ar y llywodraeth.
NDM6506
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu'r buddsoddiad o £1.3 biliwn gan Lywodraeth y DU i foderneiddio a diweddaru'r ystâd carchardai ar draws Cymru a Lloegr, gan greu cannoedd o leoedd modern i garcharorion a disodli'r hen sefydliadau gorlawn gan adeiladau newydd, addas i'r diben.
2. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o hyrwyddo a chlustnodi'r safle arfaethedig ym Mhort Talbot ar gyfer uwch garchar newydd yn ne Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriad llawn a thrylwyr gyda thrigolion a busnesau lleol ynghylch effaith debygol datblygu carchar newydd ym Mhort Talbot.
4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gynnal archwiliad llawn o'r safleoedd amgen, gan gyhoeddi'r rhestr arfaethedig.