Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad (CPA)

Cyhoeddwyd 30/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/11/2022   |   Amser darllen munud

Chweched Senedd - Cyfarfodydd ac Adroddiadau

Chweched Senedd - Cyfarfodydd ac Adroddiadau

Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad

Cymdeithas o Seneddwyr y Gymanwlad yw’r gymdeithas hon. Yr hyn sy’n uno seneddwyr y Gymdeithas yw cymuned o ddiddordebau, parch tuag at reol y gyfraith a hawliau a rhyddid yr unigolyn, a’r ffaith eu bod yn gweithio tuag at y ddelfryd bositif o ddemocratiaeth seneddol, beth bynnag fo’u rhyw, eu hil, eu crefydd a’u diwylliant.

Cenhadaeth y Gymdeithas yw hyrwyddo democratiaeth seneddol drwy wella gwybodaeth a dealltwriaeth pobl o lywodraethu democrataidd. Mae’n amcanu i greu cymuned seneddol wybodus a all ddwysáu ymrwymiad y Gymanwlad i ddemocratiaeth ac annog rhagor o gydweithio rhwng ei seneddau a’i deddfwrfeydd. Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad ar y wefan hon.


Strwythur Cangen Cymru o’r CPA

Mae gan y Senedd gangen weithgar o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad (a elwir yn Gangen Cymru o'r CPA). 

Bydd Aelodau’r Senedd yn dod yn aelodau o'r Gangen yn awtomatig pan gânt eu penodi.

 

Cefndir

Cytunodd y Senedd yn unfrydol ar gynnig a lofnodwyd gan bedwar arweinydd y pleidiau, ar 7 Gorffennaf 1999, i wneud cais am gael ein derbyn i fod yn aelod o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad.   Croesawyd Cymru’n ffurfiol fel aelod o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas yn Trinidad ar 19 Medi 1999.   

Pwyllgor Gweithredol y Gangen

Ysgrifenyddiaeth