Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Sut alla i wneud cais am leoliad profiad gwaith?
Cyhoeddwyd 01/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau
Rydym yn cynnig profiad/lleoliadau gwaith i bobl ifanc y mae'n ofynnol iddynt, fel rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, gwblhau cyfnod o amser yn y gweithle, a myfyrwyr fel rhan o’u hastudiaethau.
Rydym yn ceisio darparu ar gyfer (lle y bo'n briodol) pob cais am brofiad/lleoliadau gwaith, ond oherwydd y galw mawr, ni allwn warantu lleoliad a bydd pob cais yn cael ei drin ar sail cyntaf i'r felin.
Ewch i'n tudalen profiad gwaith i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais am leoliad profiad gwaith gyda ni.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Gweler swyddi gwag diweddaraf y Comisiwn
Dyma'r rolau cyfredol diweddaraf sydd ar gael yn gweithio i Gomisiwn y Senedd

Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym am barhau i fod yn sefydliad cynhwysol, lle mae ein cyfleoedd cyflogaeth yn agored i bawb a lle y gall pobl Cymru ymgysylltu â'n gwaith. Darllenwch fwy i ganfod sut rydym yn cynnwys amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth rydym yn ei wneud.