Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru
Dyma argymhellion adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 'Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'.
Ar y dudalen hon:
Cyflwyniad
Y cefndir
1. Yn ôl y Ganolfan Iechyd Meddwl, mae anghydraddoldeb iechyd meddwl yn rhwystr triphlyg sy'n effeithio ar nifer fawr o bobl o wahanol rannau o'r boblogaeth:
- Mae rhai grwpiau o bobl yn wynebu risg anghymesur o iechyd meddwl gwael. Yn aml, mae hyn yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau ehangach mewn cymdeithas.
- Gall y grwpiau sydd â lefelau arbennig o uchel o iechyd meddwl gwael wynebu’r anawsterau mwyaf wrth gael mynediad at wasanaethau.
- Pan mae pobl yn cael cymorth, mae eu profiadau a'u canlyniadau yn aml yn waeth.[1]
2. Roedd yr anghydraddoldebau hyn yn bodoli cyn y pandemig COVID-19, ond mae'r pandemig wedi eu gwaethygu.
Ein hymchwiliad
3. Er mwyn sicrhau bod ein gwaith ar anghydraddoldebau iechyd meddwl yn cael ei arwain gan y dystiolaeth a phrofiad byw, aethom ati i wneud y gwaith mewn dau gam.
4. Yn ystod y cam cyntaf, gwnaethom alw am dystiolaeth ysgrifenedig,[2] cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda phobl sydd â phrofiad byw neu sy’n wynebu risg o brofi anghydraddoldebau iechyd meddwl,[3] ac aethom ati i gynnal sesiynau tystiolaeth cyflwyno’r cefndir[4] i archwilio:
- Pa grwpiau o bobl y mae iechyd meddwl gwael yn effeithio'n anghymesur arnynt yng Nghymru? Pa ffactorau sy'n cyfrannu at iechyd meddwl gwaeth i’r grwpiau hyn?
- Ar gyfer y grwpiau a nodwyd, beth yw'r rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl? Pa mor effeithiol y gall gwasanaethau presennol ddiwallu eu hanghenion, a sut y gellid gwella eu profiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl?
- I ba raddau y mae polisi Llywodraeth Cymru yn cydnabod anghenion iechyd meddwl y grwpiau hyn ac yn ceisio mynd i’r afael â nhw? Ble mae'r bylchau polisi?
- Pa gamau pellach sydd angen eu cymryd, gan bwy/ym mhle, i wella iechyd meddwl a chanlyniadau’r grwpiau o bobl a nodwyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru?
5. Yn ystod yr ail gyfnod cynhaliwyd sesiynau tystiolaeth lafar pellach gennym,[5] buom yn ymweld â phrosiectau sy'n gweithio i hybu a chefnogi iechyd meddwl yn eu cymunedau,[6] buom yn cynnal trafodaethau anffurfiol preifat gyda phobl niwrowahanol,[7] ac yn cynnal grwpiau ffocws gyda grwpiau gweithlu allweddol[8] ac aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru[9] er mwyn archwilio pedair thema sy'n dod i'r amlwg:
- Iechyd meddwl a chymdeithas: penderfynyddion ehangach iechyd meddwl, a rôl cymdeithas a chymunedau wrth hybu a chefnogi iechyd meddwl.
- Atebion cymunedol: rôl cymunedau wrth hybu a chefnogi iechyd meddwl, a phresgripsiynu cymdeithasol.
- Effaith anghydraddoldebau iechyd meddwl ar bobl niwrowahanol. Er bod llawer o grwpiau a chymunedau mewn perygl o anghydraddoldebau iechyd meddwl, yn ystod cyfnod cyntaf ein gwaith clywsom bryderon sylweddol am effaith anghydraddoldebau o'r fath ar bobl niwrowahanol. Mae pobl niwrowahanol yn grŵp amrywiol, a gall llawer ohonynt brofi anghydraddoldebau sy'n ymwneud â'u nodweddion eraill hefyd. Fe benderfynom ni, felly, y byddai edrych ar brofiadau'r grŵp hwn hefyd yn ein helpu i archwilio themâu ehangach sy'n effeithio ar grwpiau eraill, gan gynnwys diffyg gwasanaethau cydgysylltiedig, ymwybyddiaeth a hyfforddiant cyfyngedig, a chysgodi diagnostig.
- Rôl y gweithlu gofal iechyd a’r gweithlu ehangach: gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a chydraddoldeb ar draws y gweithlu cyfan, hyfforddiant, gweithio cydgysylltiedig o fewn y gwasanaeth iechyd a chyda sefydliadau eraill, a rôl meddygon teulu fel 'drws ffrynt' i wasanaethau iechyd meddwl.
6. Gofynnwyd hefyd am ddiweddariadau gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar weithredu argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Iechyd a Chwaraeon a Phwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pumed Senedd yn eu gwaith ar iechyd meddwl a llesiant.[10]
7. Ym mis Medi 2022 cynhaliwyd sesiwn dystiolaeth gennym gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i archwilio'r holl faterion.[11]
Gwrando ar brofiad byw
8. Rydym am i bobl fod wrth galon iechyd a gofal cymdeithasol, ac wrth galon ein gwaith. Mae ein dull o gasglu tystiolaeth yn adlewyrchu hyn, gan ddarparu ystod o ffyrdd i bobl sydd â phrofiad byw ac arbenigedd i gyfrannu. Er mwyn cynnal hyn wrth i ni baratoi ein hadroddiad a'n hargymhellion, aethom ati i sefydlu grŵp cynghori ar-lein yn cynnwys pobl o bob cwr o Gymru ag ystod o brofiadau gwahanol. Rydym yn ddiolchgar i holl aelodau'r grŵp cynghori am eu barn, eu profiad, eu harbenigedd a'u her adeiladol.[12]
9. Rydym yn ddiolchgar i bawb a rannodd eu profiadau a’u harbenigedd gyda ni. Rhan o'n rôl ni yw taflu goleuni ar brofiadau pobl a chodi eu lleisiau. Dim ond drwy wrando ar eu straeon a deall eu straeon y gallwn wneud hyn, ond rydym yn ymwybodol iawn y gall hyn fod yn anodd i bobl weithiau a bod perygl o achosi trawma drachefn iddynt. Trwy gydol ein hymchwiliad rydym wedi gweithio gyda sefydliadau partner i sicrhau bod pawb a gymerodd ran yn ein sesiynau rhanddeiliaid, grwpiau ffocws, ymweliadau a'n grŵp cynghori wedi cael eu cefnogi gan bobl y maent yn eu hadnabod ac sydd â'r arbenigedd cywir. Hefyd, cafodd gwybodaeth am ffynonellau cymorth iechyd meddwl ac emosiynol ei chynnwys gennym yn ein cyfathrebu ynghylch yr ymchwiliad.[13]
Iaith a therminoleg
10. Pan nad yw iaith a therminoleg yn taro tant gyda phobl neu gymunedau, rydym yn cydnabod y gall waethygu stigma neu rwystro pobl rhag cael mynediad at gymorth neu gefnogaeth. Esboniodd Ashra Khanom o Neath Port Talbot Black Minority Ethnic Community Association:
“At one of the young persons' workshops, one of the girls said, 'We don't want to talk about mental health because people call us "broken"', and one of the boys said, 'In school and everything, there's pressure to succeed, and your family saying'—especially with ethnic minorities—'if you don't succeed, you're going to be discriminated against. Life is just more difficult, and a challenge'. So, everybody's like pushing, pushing for them to be useful to society, be perfect, not 'broken', as they were saying, and that was such a big issue for them. The boys were saying they would never seek mental health support from their GP because they didn't want to seem weak. Also, we talked around the language of mental health, and people were saying, 'If you use "mental health" with us, it's a barrier for us, because it's too strong a term'. That's what their words were. They said, 'Use words like "stress", "worry", "feeling unwell"', which we were surprised about as well, and somebody said, 'Do you know what? Why can't we have mental health as one group and mental illness?'".[14]
11. Roedd Dr Julie Bishop o Iechyd Cyhoeddus Cymru ("ICC") yn cytuno bod y term 'iechyd meddwl' yn cael ei ddefnyddio'n rhy aml i siarad am salwch meddwl, trallod neu iechyd meddwl gwael. Awgrymodd y gallai termau fel 'llesiant meddyliol' fod yn fwy priodol wrth geisio cael pobl a'r system ehangach i ganolbwyntio ar feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud i greu'r amodau i feithrin iechyd meddwl da fel gweithred ataliol.[15]
12. Ein nod yw bod yn gynhwysol a chael ein harwain gan dystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys yr iaith a'r derminoleg a ddefnyddiwn wrth ystyried materion yn ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant, a grwpiau a chymunedau penodol. Rydym wedi tynnu ar ganllawiau'r GIG,[16] ac ar fewnbwn gan ein grŵp cynghori ac eraill sydd wedi cyfrannu at ein gwaith. Rydym yn cydnabod bod pobl yn unigolion gyda'u barn a'u dewisiadau eu hunain, ac efallai na fydd consensws bob amser ar y termau 'cywir' neu 'a ffefrir'. Ond, yn ein hadroddiad drwyddo draw, ein nod yw defnyddio iaith sy'n cydnabod ac yn cadarnhau pwy yw'r bobl a'r grwpiau yr effeithir arnynt gan y materion yr ydym wedi'u hystyried, sy'n gyson â'r model cymdeithasol o anabledd, ac sy'n osgoi parhau’r stigma.
Tabl Cynnwys
— Crynodeb
— Anghydraddoldebau iechyd meddwl
— Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
— Caiff iechyd meddwl ei wneud mewn cymunedau
— Gweithredu trawslywodraethol cydgysylltiedig
— Diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983
— Atodiad: Cefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol
[1] Y Ganolfan Iechyd Meddwl, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: taflen ffeithiau (Saesneg yn unig, 11 Tachwedd 2020
[2] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ymgynghoriad: anghydraddoldebau iechyd meddwl
[3] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu, Mawrth 2022
[4] Cofnod y Trafodion [paragraffau 139–354], 24 Mawrth 2022. Mae dolenni i gyfarfodydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gael ar wefan y Pwyllgor.
[5] Cofnod y Trafodion, 4 Mai; Cofnod y Trafodion, 19 Mai; Cofnod y Trafodion, 8 Mehefin; Cofnod y Trafodion, 6 Gorffennaf
[6] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: ymweliad, 23 Mehefin 2022
[7]Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: trafodaeth â rhanddeiliaid, 8 Mehefin 2022
[8] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: crynodeb ymgysylltu: gweithlu, Medi 2022
[9] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: Grŵp ffocws Senedd Ieuenctid Cymru, 10 Hydref 2022
[10] Adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, rydym wedi derbyn diweddariadau ar ymchwiliadau'n ymwneud ag atal hunanladdiad ac iechyd meddwl amenedigol. Nid yw diweddariadau ar ymchwiliadau'n ymwneud ag unigrwydd ac unigedd, defnyddio meddyginiaeth gwrthseicotig mewn cartrefi gofal, iechyd meddwl ym maes plismona a dalfa'r heddlu, ac effaith achosion COVID-19 a'i reolaeth ar iechyd a llesiant wedi dod i law eto.
[11] Cofnod y Trafodion, 28 Medi 2022
[12] Mae crynodeb o safbwyntiau’r grŵp cynghori wedi'i gyhoeddi ochr yn ochr â'r adroddiad hwn.
[13] Ceir gwybodaeth am ffynonellau cymorth iechyd meddwl ac emosiynol yn yr atodiad i'r adroddiad hwn hefyd.
[14] Cofnod y Trafodion [paragraff 233], 19 Mai 2022
[15] Cofnod y Trafodion [paragraff 100], 19 Mai 2022
[16] GIG Lloegr, Making information and the words we use accessible [fel ar Tachwedd 2022]